Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/90

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Meddwl rydw i ein bod yn bur agos i ben ein taith," ebr Cooke, "neu na fuasai'r Capten yn gosod ei long yn y fath berygl."

"Mae hynny'n ddigon posibl," ebr Bob. "Ond ni welais i erioed o'r blaen Gapten yn cadw oddiwrth ei griw i ble y mae'n hwylio. A chofiwch y gall storm godi'n sydyn, unrhyw funud."

Roedd yn hawdd gweld fod ofn storm arall a pha beth a allai ddigwydd i'r llong, pe digwyddai hynny, yn pwyso'n drwm ar feddwl Bob.

Roeddynt wedi dyfod erbyn hyn i ganol ynysoedd. Roedd ynys,—un neu ddwy os nad ragor,—yn y golwg bron bob dydd, ond ymlaen yr âi'r llong gan gadw'n glir â phob un o honynt. Ac, yna, un diwrnod, pan nad oedd neb yn disgwyl i ddim ddigwydd, galwodd y Capten ar y dynion ynghyd ato.

"Mae arnaf eisiau dweud wrthych," meddai, gan bwyso'i eiriau," paham y dygais chwi i'r fan hyn. A welwch chwi'r ynys acw ar y gorwel dros ben blaen y llong?" Edrychodd pawb i'r cyfeiriad a ddangosai, a gwelent ynys o'u blaen. Edrychai'n un bur fawr, a gwelent fod tir uchel ynddi, ac nid fel rhai a welsent, yn isel a gwastad. Gwelent fynydd yn codi i uchter pur fawr o honi, a chwmwl gwyn yn gorffwys arno.

"'Rydych wedi bod yn gofyn cwestiynau," ychwanegodd y Capten, wedi i bawb weld yr ynys, a throi'n ôl gymryd sylw o'i eiriau, "ac yn awr yr wyf am eu hateb. Nid oeddwn am eu hateb nes dyfod i olwg yr ynys. A dyma'r dirgelwch. Mae trysor ar yr ynys acw, a'i gael a'i feddiannu ydyw neges Mr. Allen gyda ni. Wedyn fe awn i ben ein siwrnai,—i Lundain. Ac yn