Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/91

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

awr, gwrandewch yn astud. Fe delir yn dda i bob un o honoch a fydd yn ffyddlon, ac a wnaiff ei orau i'n helpu. Ac fe ellwch fwynhau Llundain yn llawer gwell na phe baem wedi mynd yno'r ffordd fyrraf."

Edrychodd y dynion yn syn ar ei gilydd, wedi clywed y fath newydd anhygoel bron. Ni wyddent yn iawn beth i'w feddwl o'r fath newydd ar y funud. Wedi rhoi amser iddynt gymryd yr hyn a ddywedasai i mewn, aeth y Capten ymlaen gyda'i anerchiad:

"Dydw i ddim yn meddwl y bydd i'r brodorion ymyrryd â ni, gan eu bod, fel yr wyf yn deall, wedi eu gwareiddio. Ond, petai helynt yn codi rhyngom â hwynt, rhaid i ni gael y trysor, costied a gostio. A gwae'r sawl na wna ei ran i'w sicrhau."

Dywedai y rhan olaf gyda rhyw ddifrifwch a frawychai'r dynion. Aeth ymlaen mewn tôn siriolach:

"Yn awr, un gair ynglŷn â Smith, White, a Walker: Gwn eich bod yn gofyn cwestiynau ynglŷn â f'ymddygiad tuag atynt. Dyma f'eglurhad. Gwyddoch fel y bu iddynt geisio gadael y llong rai dyddiau cyn y storm fawr. Pe baent wedi llwyddo'r adeg honno, gwyddoch na fuasem wedi llwyddo i gadw'r llong ar yr wyneb. Mae'n fwy na thebyg na fuasai'r un o honom yn fyw. Ond, yn sicr, buasai'r ymgyrch am y trysor ar ben. Wel, d'oeddwn i ddim wedi anghofio eu tro gwael atoch chwi, eu cydforwyr, a minnau, eu Capten; ac yr oeddwn yn benderfynol o dalu'n ôl iddynt. A dyna paham y gleniais hwynt ar yr ynys. Bydd gwobr pob un o honoch yn fwy am nad ydynt hwy yma i gael eu rhan."

A dyna'r eglurhâd a roddodd Capten Larkin.