Gwyddai ar wynebau'r dynion fod Wil wedi cadw'r addewid i beidio ag adrodd yr hyn a glywsai yn y caban. Syndod a ddarllenai ar bob wynepryd. Ni ddywedodd neb air o brotest yn erbyn ei driniaeth o'r tri dyn,—ni feiddiai neb ddweud dim wrtho yn ei wyneb i'w gondemnio. Ond pell ydoedd Bob a Cooke o edrych ar drosedd y dynion fel yr edrychai ef arno. Nid oedd eu trosedd, yn eu barn hwy, yn haeddu'r fath gosb. Ond wedyn, pan gawsant gyfle gyda'i gilydd, y rhoisant fynegiad i'w teimladau, ac nid yng ngwydd y Capten. Un cwestiwn yn unig a ofynnwyd, a hwnnw gan Bob:
"Sut y bydd arnom i fynd yn ôl, syr?" gofynnodd, "heb ddigon o ddwylo?"
"Wedi cael yr arian, a dyna'n busnes nesaf,—rhaid i ni fynd ymlaen i ryw borthladd,—wn i ddim yn iawn i ble ar hyn o bryd,—i chwilio am ragor o ddynion i weithio'r llong adref.'
Ac yna, dechreuwyd gwneud paratoadau gogyfer a glanio. Daeth Mr. Allen i'r dec,—yn y caban y cadwasai bron ar hyd y fordaith, heb gymryd ond ychydig o ddiddordeb ym mywyd y llong; ond, yn awr, yr oedd fel dyn wedi dechrau ail-fyw, ac yn syllu'n hiraethlon ar yr ynys o'u blaen. Roedd y llong yn symud ymlaen, yn nes, nes, i'r ynys, a chyn hir, gallent weld y tonnau'n torri ar y reef cylchynnol, ac yna, daethant yn ddigon agos i weld dyfroedd tawel y lagŵn y tumewn i'r reef a glannau'r ynys a'r tywod euraid y tu draw iddo.
Gwelwyd yn fuan mai gyda modur-fâd y bechgyn y bwriadai'r Capten lanio ar yr ynys. Paratodd y bad at y gorchwyl, ac yna daeth Mr. Allen a'r Capten a map i fyny o'r caban. Cadwent ef iddynt eu hunain,—ni