châi neb arall ei weld ganddynt. Astudient yr ynys—neu o leiaf, y pen a welent o honi o'r llong,—yng ngoleuni'r map, gan siarad cryn lawer, a phwyntio at yr ynys. Gwyliai Wil hwynt o ymyl y galley. Wedi iddynt drafod y map am beth amser, a dadlau a'i gilydd, rhoddwyd gorchymyn fod y llong i hwylio ymlaen ar hyd ochr ddeheuol yr ynys, gan gadw gryn bellter oddiwrth y lan. Barnai'r dynion, er na ddywedwyd mo hynny wrthynt, mai amcan hynny oedd peri i'r brodorion, os oedd rhai o honynt yn gwylio'r llong oddiar yr ynys, gredu ei bod yn mynd ymlaen heibio iddynt ar ei hynt, ac nad oedd bwriad i lanio.
Fel y symudai'r llong ymlaen, gwyliai'r Capten lannau'r ynys yn fanwl gyda'r teliscôp. Aeth Capten Larkin at y mêt ar ôl syllu am gryn amser.
"Mae'n sicr bod pobl yn byw ar yr ynys hon," meddai wrtho, "ond ni fedraf yn fy myw weld yr un tua'r glannau, nac arwydd, yn wir, o fywyd dynol arni. Welwch chwi rywbeth, Mr. Brown?" gan estyn y teliscôp iddo.
Edrychodd Mr. Brown drwy'r teliscôp am rai munudau heb ddweud dim. Yna, rhoddodd ef yn ôl i'r Capten.
"Na, nid oes neb i'w weled," meddai. "Onid yw'n bosibl nad oes neb yn byw arni?"
"Dyna sy'n rhyfedd," ebr y Capten, "oblegid yn ôl y wybodaeth sydd gan Mr. Allen y mae pobl yn byw arni; o'r hyn lleiaf, yr oedd preswylwyr yma beth amser yn ôl."
Yna aeth at Mr. Allen, ac unwaith eto, bu siarad brwd rhyngddynt am rai munudau, ac astudio drachefn