"Reit, syr," ebr Mr. Brown yn ostyngedig, ac ymaith â'r bâd.
Gwyliwyd ef gan y rhai a adewsid ar y bwrdd yn mynd drwy'r bwlch yn y reef, ac i'r lagŵn. Yna aeth i fyny'r lagŵn, ac o'u golwg.
"Mae'n debyg y bwriadant lanio gyferbyn à chuddfan y trysor," ebr Bob wrth Mr. Brown, yr hwn a safai wrth ei ymyl, a gwên ddieithr ar ei wyneb.
"Feallai, wir," oedd ateb y mêt, ond mewn tôn a barodd i Bob edrych i'w wyneb,—yr oedd mor wahanol i'w ddull arferol o siarad.
"Wn i ddim beth yw'ch teimlad chwi, syr," ebr Bob drachefn, ar ôl ennyd o ddistawrwydd, "ond, o'm rhan fy hun, onibai eu bod wedi cymryd Wil gyda hwynt, buaswn yn gofyn i chwi godi'r angor, a mynd ymaith, a'u gadael yma i gymryd eu siawns."
"Ac, yn sicr i chwi, byddai'n hollol ofer i chwi ofyn i mi wneud dim o'r fath, Bob," oedd ateb y mêt.
"Beth?" gofynnodd Bob mewn syndod wrth ei eiriau. "Rydych yn parhau i gredu mai dyna eich dyletswydd, a'r Capten wedi ymddwyn yn y fath fodd ar hyd y siwrnai? Ni feiïd chwi gan unrhyw lys am anufuddhau i'w orchymyn."
"Nid dyna fy rheswm dros ddymuno aros yma, Bob," ebe'r mêt. "Ond, fe synnwch glywed hyn,—rwyf am groesawu'r Capten a Mr. Allen yn ôl i'r llong gyda'r trysor." Yr oedd syndod Bob yn cynhyddu fwyfwy gyda phob ateb o eiddo'r mêt.
Wedi ennyd arall o ddistawrwydd, ebe'r mêt, "Bob, gwn y gallaf eich trystio chwi a Dic. Ond beth am Cooke? A ydych yn meddwl y gallaf ei drystio ef?"