Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Mêt y Mona.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ni wyddai Bob pam y gofynnai'r mêt gwestiwn mor ryfedd, a bu ennyd heb ateb. Yna meddai, "O! rydw i wedi ffeindio Cooke yn eitha dyn, a gair da ganddo i chwi. Credaf y gellwch ei drystio, er nad wyf yn deall pa fath dryst a olygwch."

"Nid wyf am drystio Thomson," ebe'r mêt yn bendant. "Rwy'n mynd i lawr i'r caban yn awr. Dowch yno ar f'ôl mewn tua phum munud,—na, rhoddwch ddeng munud i mi,—a dowch a Dic a Cooke gyda chwi."

Ol reit," ebr Bob, gan agor ei lygaid mewn syndod ar syndod wrth dderbyn gorchymyn mor ddieithr. Ac am y munudau nesaf, bu'n dyfalu beth, tybed, oedd y dirgelwch mawr oedd gan y mêt i'w ddatguddio iddo, oblegid daethai erbyn hyn i'r casgliad mai dyna oedd diben y mynd i'r caban.

Yna, wedi i'r deng munud, fel y barnai, fynd heibio, galwodd ar Cooke a Dic ato, ac i lawr â'r tri i'r caban. Os synnwyd Bob gan eiriau'r mêt wrtho ar y dec, beth am y syndod a gafodd pan arweiniodd y ddau arall i lawr i'r caban? Pan gyrhaeddodd droed y grisiau, ac edrych i mewn i'r brif ystafell, ni allai gredu ei lygaid. Oblegid ar y fainc wrth y bwrdd ac yn ei wynebu, eisteddai,—nid Mr. Brown y mêt, ond merch! Ar y funud, ni allai ef na'i gymdeithion ddeall ystyr y drychiolaeth. Rhwbiodd Bob ei lygaid, gan dybied bod rhyw anhwyl ar ei olygon. Ond, wedi gwneud hynny, yno'r oedd y weledigaeth o'i flaen o hyd. I ble'r aethai'r mêt, tybed? Trodd ei ben i edrych i'r ystafell arall. Ond, na! nid oedd neb yno. Trodd yn ôl i edrych unwaith yn rhagor ar y