gilydd, rhoddasant eu dwylaw am yddfau y naill y naill, ac o frawdol gariad pob un o honynt a groesawodd eu gilydd.
Ac wedi mynegi o Ludd i'w frawd ystyr
ei neges, Llefelys a ddywedodd y
gwyddai ef ei hun ystyr dyfodiad
y gormesau i'r gwledydd hynny.
Yna cymerasant gyd-gyngor i
ymddiddan am eu negeseu yn
wahanol i hynny,—megys nad
elai y gwynt a'u hymadroddion
rhag gwybod o'r Coraniaid a ddywedent.
Ac yna y parodd Llefelys wneuthur corn hir o efydd, a siarad trwy y corn hwnnw. A pha ymadrodd bynnag a ddywedai yr un o honynt wrth eu gilydd trwy y corn, ni chlywai yr un o honynt ond ymadrodd go atcas croes. Ac wedi gweled o Lefelys

hynny, a bod y cythrael yn eu llesteirio, ac yn terfysgu drwy y corn, perodd yntau ddodi gwin yn y corn a'i olchi, a thrwy rinwedd y gwin gyrru'r cythrael o'r corn.
Ac wedi bod eu hymadrodd yn ddilestair y dywedodd Llefelys wrth ei frawd y rhoddai iddo ryw bryfaid, a'i fod i gadw rhai o honynt yn fyw i hilio,—rhag ofn i'r ormes honno ddod o ddamwain eilwaith—a chymeryd eraill a'u briwio mewn dwfr. A chadarnhai Llefelys fod hynny'n dda i ddistrywio cenedl y Coraniaid. Nid amgen, pan elai adref i'w deyrnas, iddo gasglu yr holl bobl i gyd,—ei genedl ef a chenedl y Coraniaid,—i'r un cyfarfod, dan yr esgus o wneyd heddwch rhyngddynt. A phan fai pawb o honynt ynghyd, iddo gymeryd y
dwfr rhinweddol hwnnw a'i fwrw ar bawb`