Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/11

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

RHAGYMADRODD

—————♦♦—————

DYMA'R pethau hynaf fedd ein llenyddiaeth, yn ol pob tebig. Y mae'n wir mai tua'r drydedd ganrif ar ddeg y rhoddwyd hwynt mewn ysgrifen yn Llyfr Coch Hergest. Ond y maent ganrifoedd yn hŷn na hynny, -y maent yn hŷn na'r efengyl; adroddid hwy cyn i Rufeiniwr na Sais weled ein gwlad erioed. Hen ystoriau tlysion adroddid ym Mhrydain cyn cred yw'r pedair mabinogi hyn, ac y maent yn llawn o baganiaeth. Maent yn ddiddorol ryfeddol i blant; ac ynddynt gall y bachgen a'r eneth feddylgar astudio meddwl eu gwlad pan oedd eto heb deimlo dim oddiwrth yr Iesu.

Gwelir mewn aml le fod yr ysgrifennydd yn y drydedd ganrif ar ddeg yn ysgrifennu peth oedd yn rhy hen iddo ef ei gyflawn ddeall. Rhydd aml air o esboniad hefyd.

Hen Gymru'r tywysogion yw Cymru'r Mabinogion. Bywyd yr uchelwyr yn unig ddarlunir, y rhai o waed brenhinol oedd yn myned ar gylch o lys i lys, a'u pobl yn rhoi bwyd a diod iddynt.

Fel ysgrifennydd Llyfr Coch Hergest, yr wyf finnau wedi newid ychydig ar y pedair mabinogi; ond ni newidiais ond lleia allwn,-dim ond digon i'w gwneud yn ddealladwy i blant ysgol ein dyddiau ni. Am yr ysgolhaig, aiff ef, wrth gwrs, i gyfrol fanwl Rhys a Gwenogfryn Evans.