Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/16

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Tua'r llys yr aeth Pwyll, ac yn y llys ef a welai hundai, a neuaddau, ac ystafelloedd, a'r adeiladau tecaf a welsai neb. Ac i'r neuadd yr aeth i ddad-wisgo, a daeth llanciau a gweision ieuainc i'w ddadwisgo; a chyfarch gwell a wnai pawb iddo fel y delent i mewn. Fel yr ymladdodd dau frenin Dau farchog a ddaeth i dynnu ei wisg hela oddiam dano, ac i'w wisgo âg eur-wisg o bali. Y neuadd a drefnwyd, ac yna y gwelai ef y teulu a'u canlynwyr, a'r nifer harddaf a chyweiriaf a welsai neb, yn dyfod i mewn, a'r frenhines gyda hwy,—y wraig decaf a welsai neb, ac eur-wisg am dani o bali llathr, Ac ar hynny, hwy a aethant i ymolchi, ac a ddaethant at y byrddau. Ac eistedd a wnaethant fel hyn,—y frenhines un ochr i Bwyll, ac iarll, debygai ef, yr ochr arall. A dechreu ymddiddan a wnaeth ef â'r frenhines; ac er a welsai erioed wrth ymddiddan, hi oedd y wraig fwynaf, a'r foneddigeiddiaf ei haniad a'i hymddiddan.

A mwynhau a wnaethant y bwyd a'r ddiod, y canu a'r gymdeithas. Ac ar a welodd o holl lysoedd y ddaear, hwn oedd y llys llawnaf o fwyd a diod, o eur-lestri a theyrn-dlysau.

Treulio y flwyddyn a wnaeth trwy hela, a chanu, a gwledda, a charueiddrwydd, ac ymddiddan â chymdeithion—hyd y nos yr oedd yr ornest i fod. A phan ddaeth y nos honno, yr oedd y cyfarfod yn dod i gof hyd yn oed y dyn pellaf yn yr holl wlad. Daeth Pwyll i'r man cyfarfod, a gwŷr-da ei wlad gydag ef, a chyda ei fod wrth y rhyd, marchog a gyfododd i fyny ac a ddywedodd fel hyn,

"Ha wŷr da," ebe ef," ymwrandewch, rhwng y ddau frenin y mae yr ornest hon, a hynny rhwng eu dau gorff eill dau. Pob un ohonynt sydd hawliwr ar ei gilydd, a hynny am dir a daear, a diogel y dichon pob un ohonoch fod, eithr gadael rhyngddynt hwy ill dau.”