Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/17

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ar hynny y ddau frenin a nesasant ynghyd i ganol y rhyd, ac ymgyfarfod a wnaethant. Ac ar y gosod cyntaf, y gŵr oedd yn lle Arawn a darawodd Hafgan yng nghanol ei darian hyd oni holltodd yn ddau hanner, ac hyd oni thorrodd yr arfau, ac hyd onid oedd Hafgan hyd ei fraich a'i bicell dros bedrain ei farch ar y llawr, ac angeuol ddyrnod ynddo yntau."

"O unben," ebe Hafgan, pa hawl oedd i ti ar fy angau i? Nid oeddwn i yn gofyn dim i ti, ac ni wyddwn achos i ti hefyd fy lladd i. Ac, yn wir," ebe ef, "gan i ti ddechreu fy lladd, gorffen."

"O unben," ebe Pwyll, "fe allai fod yn edifar gennyf am a wnaethum it. Cais a'th laddo, ni laddaf fi di."

"Fy ngwŷr-da, cywir," ebe Hafgan, "dygwch fi oddiyma. Daeth fy angau yn sicr. Nid oes modd i mi eich cynnal chwi bellach."

"Fy ngwŷr-da innau," ebe y gŵr a oedd yn lle Arawn, "cymerwch gyfarwyddyd, a gwybyddwch pwy a ddylai fod yn wŷr i mi."

Arglwydd," ebe y gwŷr-da, "pawb a ddylai, canys nid oes frenin ar holl Annwn namyn tydi." Fel yr enillwyd Annwn Ie," ebe yntau, "a ddel yn ufudd, iawn yw ei gymryd; a'r hwn ni ddel yn ufudd, gorfoder ef trwy nerth eleddyfau." Ac ar hynny cymryd gwarogaeth y gwŷr, a dechreu goresgyn y wlad a wnaeth; ac erbyn hanner dydd drannoeth yr oedd yn ei feddiant y ddwy deyrnas.

Ac ar hynny Pwyll a gerddodd tua'i gynefin, ac a ddaeth i Lyn Cuch. A phan ddaeth yno yr oedd Arawn, brenin Annwn, yn ei gyfarfod. Llawen fu pob un ohonynt wrth ei gilydd.

"Ie," ebe Arawn, "Duw a dalo i ti am dy ffyddlondeb i mi, mi a glywais amdano."