Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/19

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

deyrnas yr un dydd trwy ei ddewrder a'i filwriaeth, pallodd ei enw Pwyll Pendefig Dyfed, a galwyd ef Pwyll Pen Annwn o hynny allan.

Ac unwaith yr oedd yn Arberth, prif lys iddo, lle yr oedd gwledd ddarparedig iddo, a niferoedd mawr o wyr gydag ef. Ac wedi y bwyta cyntaf, cyfodi i gerdded a wnaeth Pwyll, a myned i ben gorsedd oedd uwchlaw y llys, a elwid Gorsedd Arberth.

Arglwydd," ebe un o'r llys, "hynodrwydd yr orsedd yw, pa bendefig bynnag a eisteddo arni nid â oddi arni heb un o ddau beth, heb dderbyn briwiau ac archollion, neu weled rhyfeddod." Fel y gwelodd Pwyll ryfeddod"Nid oes arnaf ofn cael briwiau ac archollion ymhlith hyn o nifer, da hefyd fuasai gennyf pe gwelwn ryfeddod. Mi a af i'r orsedd i eistedd."

Eistedd a wnaeth ar yr orsedd. Ac fel yr oeddynt yn eistedd hwy a welent wraig ar farch canwelw mawr aruchel, a gwisg euraidd ddisglair am dani, yn dyfod ar hyd y brif-ffordd arweiniai o'r orsedd. Cerdded araf, gwastad, oedd gan y march i fryd y neb a'i gwelai, ac yn dyfod i fyny tua'r orsedd.

"Ha wyr," ebe Pwyll, "a oes ohonoch chwi a adwaen y farchoges acw ?"

"Nac oes, arglwydd," ebe hwynt.

"Aed un," ebe yntau, "i'w chyfarfod, i wybod pwy yw." Un a gyfododd i fyned, a phan ddaeth i'w chyfarfod i'r ffordd, wele hi a aeth heibio. A'i hymlid a wnaeth mor gyflym ag y gallai ar draed. A pha fwyaf fyddai ei frys ef, pellaf fyddai hithau oddiwrtho ef. A phan welodd na thyciai iddo ei hymlid, dychwelyd a wnaeth at Bwyll, a dywedyd wrtho," Arglwydd," ebe ef, "ni thycia i un gŵr traed yn y byd ei hymlid hi."