Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y cerddai y march y goddiweddai hi. A hynny ni thyciai iddo. Gollwng yr awenau i'w farch a wnaeth, ond nid oedd nes ati na phan ar ei gam. Mwyaf y tarawai ef ei farch, pellaf fyddai hithau oddi wrtho, a cherdded ei march nid oedd fwy na chynt. A phan welodd na thyciai iddo ei hymlid, dychwelyd a wnaeth hyd y lle yr oedd Pwyll."

Arglwydd," ebe ef, "nid oes allu gan y march amgen nag a welaist di."

"Mi a welais," ebe yntau Pwyll, "na thycia i neb ei herlid hi. Ac yn sicr yr oedd ganddi neges at rai o'r parth hwn, pe gadawai ei brys iddi ei ddweyd. A ni a awn tua'r llys."

I'r llys y daethant, a threulio y nos honno a wnaethant drwy ganu a gwledda nes ymlonyddu. A thrannoeth mwynhau y dydd a wnaethant hyd nes oedd yn amser myned i fwyta. A phan ddarfu iddynt fwyta, Pwyll a ddywedodd,—

"Pa le mae y gwyr y buom ni ddoe ac echdoe ar ben yr orsedd ?"

Wele ni, arglwydd," ebe hwythau.

"Awn," ebe efe, "i'r orsedd i eistedd. A thithau," ebe of wrth was ei farch, "cyfrwya fy march yn dda, ac arwain ef i'r ffordd, a dwg fy yspardynau gyda thi."

Y gwas a wnaeth hynny. Dyfod i'r orsedd a wnaethant i eistedd, ac ni fuont yno ychwaith encyd cyn gweled y farchoges yn dyfod yr un ffordd, yn yr un ansawdd, ac yn yr un un gerdded.

"Ha was," ebe Pwyll, "mi a welaf y farchoges yn dyfod. Moes fy march."

Ac nid cynt yr esgyn ar ei farch nag yr â hithau heibio iddo. Troi ar ei hol a wnaeth a gadael i'w farch hoyw, chwareus, gerdded, ac fe debygai y goddiweddai hi ar yr ail gam neu'r trydydd. Ond nid oedd yn nes iddi