Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

na chynt. Gwnaeth i'w farch redeg mor gyflym ag a allai, a gweled a wnaeth na thyciai iddo ei hymlid. Yna y dywedodd Pwyll,—

"Ha forwyn, er mwyn y gŵr mwyaf a geri, aros fi."

"Arhosaf yn llawen," ebe hi, "a gwell fuasai i'th farch pe gofynaset er ysmeityn."

Sefyll, ac aros, a wnaeth y forwyn, a chodi'r rhan o wisg ei phen oedd am ei hwyneb, ac edrych arno, a dechreu ymddiddan âg ef.

Arglwyddes," ebe Pwyll, "o ba wlad y doi, a pha gerdded sydd arnat?"

"Cerdded ar fy negesau," ebe hi, "a da yw gennyf dy weled di."

"Yr wyf yn dy groesawu," ebe ef. Ac yna meddwl a wnaeth mai difwyn ganddo oedd gwedd pob morwyn a gwraig a welsai erioed wrth ei gwedd hi.

Arglwyddes." ebe ef, "a ddywedi di i mi ddim o'th negesau?"

Dywedaf, yn wir," ebe hithau, "pennaf neges i mi oedd ceisio dy weled di."

'Dyna," ebe Pwyll, " y neges oreu gennyf fi dy ddyfod di iddi. A ddywedi di i mi pwy wyt?

"Dywedaf, arglwydd," ebe hi, "Rhianon, merch Hefeydd Hen wyf fi, a cheisir fy rhoddi i ŵr o'm Fel yr addawodd Pwyll yn ddifeddwl hanfodd. Ac ni fynnwn innau un gŵr oherwydd fy nghariad atat ti. Ac ni fynnaf eto os na wrthodi di fi. Ac i wybod dy ateb am hynny y daethum i."

"Yn wir," ebe Pwyll, "dyma fy ateb i iti. Pe cawn fy newis o holl wragedd a morynion y byd mai tydi a ddewiswn."

"Ie," ebe hithau, "os hynny a fynni cyn fy rhoddi i ŵr arall, noda fan cyfarfod â mi."

"Goreu gennyf," ebe yntau Bwyll, po gyntaf, ac yn y lle a fynni—penoda'r man cyfarfod."