Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Gwnaf, arglwydd," ebe hi. "Blwyddyn i heno yn llys Hefeydd mi a baraf fod gwledd ddarparedig yn barod erbyn dy ddyfod."

"Yn llawen," ebe yntau, "a minnau a fyddaf yn y man cyfarfod."

Arglwydd," ebe hi, "trig yn iach, a chofia gyflawni'th addewid, ac ymaith yr af i."

A gwahanu a wnaethant, a dychwelyd wnaeth Pwyll tua'i deulu a'i gyfeillion. A pha ofyn bynnag a fyddai ganddynt am y forwyn, i chwedlau eraill y troai yntau.

Treulio y flwyddyn hyd yr amser penodedig a wnaethant, a threfnu ei farchogion, ef yn ganfed farchog, a myned rhagddo i lys Hefeydd Hen. Ac efe a ddaeth i'r llys; a llawen fuwyd wrtho, a chynnull a llawenydd ac arlwy mawr oedd yn ei aros. holl swyddogion y llys a drefnwyd wrth ei gyngor. Trefnwyd y neuadd, ac at y byrddau y daethant. Ac fel hyn yr eisteddasant, —Hefeydd Hen ar un llaw i Bwyll, a Rhianon ar y llall, a'r gweddill pob un fel y byddai ei anrhydedd. Bwyta a gwledda ac ymddiddan a wnaethant. Ac ar ddechreu y gyfeddach, wedi'r bwyd, hwy a welent yn dyfod i mewn was gwineu mawr, brenhinol ei olwg, a gwisg o bali am dano. A phan ddaeth i gyntedd y neuadd, cyfarch gwell a wnaeth i Bwyll a'i gymdeithion.

"Gras y nef fo it, enaid," ebe Pwyll, "a dos i eistedd."

"Nac af," ebe ef, "erfyniwr wyf, a'm neges a wnaf." Gwna yn llawen," ebe Pwyll.

"Arglwydd," ebe ef, "atat ti y mae fy neges, ac i'w gofyn gennyt y deuais."

"Pa arch bynnag a erchi di i mi, hyd y gallwyf ei gael, i ti y bydd."

"Och," ebe Rhianon, " paham y rhoi di ateb felly?"