Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/24

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ond oni roddodd efe yr ateb, arglwyddes, yng ngŵydd y gwŷr—da?" ebe'r llanc.

"Enaid," ebe Pwyll, "beth yw dy arch di?"

"Y wraig fwyaf a garaf yw Rhianon; ac i'w gofyn hi a'r arlwy a'r wledd y sydd yma y daethum." Distewi a wnaeth Pwyll, gan nad oedd ganddo ateb i'w roddi.

"Taw hyd y mynnot," ebe Rhianon.

"Ni fu gŵr yn fwy musgrell ar ei synwyr ei hun nag a fuost ti."

"Arglwyddes," ebe ef, "ni wyddwn i pwy oedd ef."

"Dyma y gŵr y mynasid fy rhoddi iddo o'm hanfodd," ebe hi, "Gwawl, fab Clud, gŵr o fawr allu a chyfoeth. A chan i ti ddywedyd y gair a ddywedaist, dyro fi iddo, rhag anghlod i ti."

"Arglwyddes," ebe ef, "ni wn i pa ryw ateb yw hwnnw, ac ni allaf fi wneud a ddywedi di byth."

"Dyro di fi iddo," ebe hi, a mi a wnaf na chaffo ef fyfi byth."

"Pa ffurf y bydd hynny?" ebe Pwyll.

"Mi a roddaf i'th law god fechan, a chadw honno'n dda. Ac efe a ofyn y wledd, a'r arlwy, a'r danteithion, ac nid ydynt yn dy feddiant. A myfi a roddaf y wledd i'r gwyr a'r teulu," ebe hi, "a dyna fydd dy ateb am hynny. Am danaf finnau," ebe hi, "mi a wnaf gytundeb âg ef i'w briodi flwyddyn i heno. Ac ymhen y flwyddyn, bydd dithau a'r god hon gennyt gyda'th farchogion,— tydi yn ganfed, yn y berllan uchod. A phan fo ef ar ganol y digrifwch a'r gyfeddach, tyred dithau dy hun i mewn, a dillad gwael am danat, a'r god hon yn dy law. Ac na ofyn ddim namyn llond y gôd o fwyd. A minnau a baraf," ebe hi, pe dodid ynddi hynny o fwyd a diod sydd yn y saith gantref yma, na fydd yn llawnach na chynt. Ac wedi bwrw llawer iddi, ef a ofyn i ti,— A fydd lawn dy gôd di byth?' Dywed dithau.—' Na fydd, oni chyfyd boneddwr tra chyfoethog, a gwasgu