Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Aeth Gwawl tua ei wlad, a threfnwyd y neuadd i Bwyll a'i wyr a gwŷr y llys hefyd. Ac eistedd wrth y byrddau a wnaethant; ac fel yr eisteddasant flwyddyn i'r nos honno, yr eisteddodd pawb yn awr. Bwyta ac yfed a wnaethant, a phriodwyd Pwyll â Rhianon.

A thrannoeth, yn ieuenctid y dydd, Arglwydd," ebe Rhianon, "cyfod i fyny, a dechreu dawelu'r cerddorion, ac na omedd neb heddyw ar a fynno dda."

"Hynny a wnaf fi yn llawen," ebe Pwyll, "heddyw a beunydd tra y parhao y wledd hon."

Cyfododd Pwyll i fyny, a rhoddodd osteg i wahodd yr holl rai ddymunent ffafr a'r cerddorion i ymddangos, ac i fynegi iddynt y boddlonid pob un ohonynt wrth ei fodd a'i fympwy. Hynny a wnaethpwyd, a'r wledd honno a dreuliwyd, ac ni omeddwyd i neb ddim tra y parhaodd. A phan ddarfu y wledd, dywedodd Pwyll wrth Hefeydd,—

Arglwydd, mi a gychwynaf yfory tua Dyfed, gyda dy gennad."

Ie," ebe Hefeydd, "rhwydd hynt i ti, a dywed yr amser a'r adeg y del Rhianon ar dy ol."

"Yn wir," ebe Pwyll, "ynghyd y cerddwn oddiyma."

"Ai felly y mynni di, arglwydd?" ebe Hefeydd.

"Ie, yn wir," ebe Pwyll.

Cerddasant drannoeth tua Dyfed, a daethant i lys Arberth, a gwledd ddarparedig oedd yno iddynt. Daeth llawer o wyr a gwragedd goreu y wlad a'r etifeddiaeth i edrych amdanynt, ac ni adawodd Rhianon neb ohonynt heb roddi iddo rodd enwog,—naill ai o freichled, ai o fodrwy, ai o faen gwerthfawr.

Llywodraethu y wlad yn llwyddiannus a wnaethant y flwyddyn honno, a'r ail. Ac yn y drydedd flwyddyn, dechreuodd gwŷr y wlad fod yn drwm eu bryd o weled