Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

adael y drws yn agored. Dychwel a wnaeth. Ac wrth y drws wele fab bychan yn ei grud, wedi troi llen o bali am dano. Cymerodd y mab bychan ato, ac yr oedd yn fachgen cryf o'r oed oedd arno. Dododd gaead ar y drws, ac aeth i'r ystafell lle yr oedd ei wraig.

Arglwyddes," ebe ef, "ai cysgu yr wyt ti?"

Nage, Arglwydd," ebe hi, "mi a gysgais, a phan ddaethost ti i mewn, mi a ddeffroais."

"Y mae yma fab i ti," ebe ef, "os mynni un na fu erioed i ti."

'Arglwydd," ebe hi, "dywed fel y bu." Mynegodd Teyrnion yr holl hanes wrthi.

"Pa fath wisg sydd am y mab?" ebe hi.

"Llen o bali," ebe yntau.

"Mab i ddynion mwyn yw felly," ebe hithau. Bedyddiwyd y mab yn ol yr arferiad yno, a'r enw roddwyd arno oedd Gwri Wallt Euryn; gan fod hynny o wallt oedd ar ei ben cyn felyned a'r aur. Meithrin y mab yn y llys a wnawd nes oedd yn flwydd; a chyn ei flwydd yr oedd yn cerdded yn gryf, a mwy oedd na baban teirblwydd fyddai mawr ei dwf a'i faint. Yr ail flwyddyn yr oedd gymaint a mab chwe blwydd, a chyn pen y bedwaredd, ceisiai ennill y gweision er mwyn iddo gael tywys y meirch i'r dwfr.

Arglwydd," ebe ei wraig wrth Deyrnion, "lle mae yr ebol achubaist y nos y cefaist y mab?"

"Mi a'i rhoddais i weision y meirch, ac erchais iddynt ofalu amdano."

Onid da i ti, arglwydd," ebe hi, "ei dorri i lawr a'i roddi i'r mab, canys y nos y cefaist y mab y ganed yr ebol, ac yr achubaist ef?" "Nid wyf yn erbyn hynny," ebe Teyrnion, "mi a adawaf i ti ei roddi iddo."

Da, arglwydd," ebe hi, "mi a'i rhoddaf."