Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/33

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yna y rhodded y march i'r mab, a daeth hi at weision yr ystabl, a gweision y meirch, i orchymyn iddynt ofalu am y march, a'i fod yn hywedd erbyn y delai y mab i'w farchogaeth.

Yng nghanol yr helyntion hyn, clywsant newyddion rhyfedd am Rianon a'i phennyd. Oherwydd yr hyn oedd Teyrnion wedi ei ddarganfod, ymwrandawodd â'r hanes, ac ymofynnodd yn barhaus, nes iddo glywed, gan amlder y lliaws ddelai i'r llys, fynychu cwyno druaned oedd damwain Rhianon a'i chosb.

Meddyliodd Teyrnion lawer am hyn, gan edrych ar y mab yn graff, a chredai oddiwrth ei wynepryd na welsai erioed fab a thad cyn debyced i'w gilydd a'r mab hwn a Phwyll Pen Annwn. Yr oedd yn adnabod Pwyll yn dda, canys bu cyn hynny yn un o'i wŷr. Ac wedi hynny, gofidio a wnaeth am gadw'r mab, ac yntau yn gwybod mai mab gŵr arall oedd. A phan gafodd hamdden gyntaf gyda'i wraig, mynegodd iddi nad iawn iddynt hwy oedd cadw y mab a gadael cymaint poen ar wraig mor dda a Rhianon, o achos hynny, a'r mab yn fab i Bwyll Pen Annwn.

A gwraig Teyrnien a gytunodd anfon y mab i Bwyll.

A thri pheth, arglwydd," ebe hi, a gawn ni am hynny, diolch ac elusen am ollwng Rhianon o'r boen y mae ynddi,—diolch gan Bwyll am feithrin ac adfer ei fab, a'r trydydd peth,—os mai gŵr mwyn fydd y mab, mab maeth i ni fydd, a'r goreu a allo fyth a wna i ni."

A phenderfynasant felly.

Drannoeth trefnodd Teyrnion ei farchogion, ef yn drydydd, a'r mab yn bedwerydd farchog, ar y march a roddasid iddo gan Deyrnion, ac aethant tuag Arberth, ac ni buont yn hir yn cyrraedd yno. A phan ddaethant i ymyl y llys, hwy a welent Rianon yn eistedd yn ymyl yr esgyn-faen. A phan oeddynt gyferbyn â hi, dywedodd,—