Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/34

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ha, unben, nac ewch ymhellach, mi a ddygaf bob un ohonoch hyd y llys. A hynny yw fy mhennyd am ladd fy mab fy hun a'i ddifetha."

"Ha, wraig dda," ebe Teyrnion, "ni thebygaf y cymer un ohonom i ti ei ddwyn."

"Cymered a fynno," ebe y mab, "ni chymeraf fi."

"Yn wir, enaid," ebe Teyrnion, "ni chymerwn ninnau."

Aethant i'r llys, a derbyniwyd hwy gyda llawenydd mawr. Ac yn dechreu cynnal gwledd yr oeddynt yn y llys. Yr oedd Pwyll newydd ddod adref o gylchu Dyfed. I'r neuadd yr aethant i ymolchi, a llawen fu Pwyll wrth Deyrnion. Eisteddai Teyrnion rhwng Pwyll a Rhianon, a'r ddau gydymaith uwch law Pwyll, a'r mab rhyngddynt. Wedi darfod bwyta, a dechreu y gyfeddach, dechreuasant ymddiddan. A'r ymddiddan fu gan Deyrnion oedd, mynegi yr holl hanes am y gaseg ac am y mab, fel y bu y mab ar eu harddelw hwy,— Teyrnion a'i wraig,——ac fel y magasent ef.

"Ac a weli di yna dy fab, arglwyddes?" ebe Teyrnion," a phwy bynnag ddywedodd anwiredd arnat, cam a wnaeth; a minnau, pan glywais y gofid a fu arnat, trwm fu gennyf, a gofidio a wnaethum.

Ac nid wyf yn tebygu fod yma neb o'r nifer hwn oll nad adnabo fod y mab yn fab i Bwyll."

"Nid oes neb," ebe pawb, "nad yw ddiau ganddo hynny."

"Yn wir," ebe Rhianon, "amser esgor fy mhryder i a ddaeth, os gwir hynny."

Arglwyddes," ebe Pendaran Dyfed, "da y gelwaist di dy fab Pryderi, a goreu y gwedda iddo,—Pryderi fab Pwyll Pen Annwn.'

Edrychwch," ebe Rhianon, "nad gwell y gwedda ei enw ei hun iddo."

"Beth yw ei enw?" ebe Pendaran Dyfed.