Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/35

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Gwri Wallt Euryn y galwasom ni ef.'

Pryderi," ebe Pendaran, "fydd ei enw ef."

"Iawnaf yw hynny," ebe Pwyll, "cymryd enw y bachgen oddiwrth y gair ddywedodd ei fam pan gafodd lawen chwedl am dano." Ac felly y galwyd ef Pryderi. "Teyrnion," ebe Pwyll, "Duw a dalo i ti am feithrin y mab hyd yr awr hon. Ac iawn yw iddo yntau, os bydd ŵr mwyn, dalu i ti."

"Arglwydd," ebe Teyrnion, "nid oes neb yn y byd yn fwy ei galar ar ei ol na'r wraig a'i magod ef. Ac iawn yw iddo gofio yr hyn a wnaeth fy ngwraig a finnau iddo." Yn wir," ebe Pwyll, "tra y byddaf byw ac y gallwyf gynnal fy eiddo fy hun, mi a'th gynhaliaf di a'th gyfoeth. Pan ddaw ef i'm lle, iawnach fydd iddo ef dy gynnal nac i mi. Ac os boddlon gennyt ti a'r gwŷr-da, rhoddwn ef ar faeth i Bendaran Dyfed o hyn allan, fel y megaist di ef hyd yn awr. A byddwch chwithau gyfeillion a thadmaethau iddo."

Cyngor iawn," ebe pawb, "yw hynny."

Yna rhodded y mab i Bendaran Dyfed, ac aeth gwŷr-da y wlad gydag ef.

Cychwynnodd Teyrnion Twrf Fliant a'i gymdeithion tua'i wlad mewn cariad a llawenydd; ac nid oedd neb heb gynnig iddo y tlysau tecaf, a'r meirch goreu, a'r cŵn hoffaf, ond ni fynnai ef ddim.

Magwyd Pryderi fab Pwyll Pen Annwn yn ymgeleddus, fel y dylasid, hyd nes y daeth y gŵr ieuanc harddaf a thecaf, a'r goreu ymhob camp dda oedd yn y deyrnas.

Felly y treuliasant flwyddyn, a blynyddoedd, nes y daeth terfyn ar hoedl Pwyll Pen Annwn ac y bu farw.

A theyrnasodd Pryderi ar saith gantref Dyfed yn llwyddiannus, a hoff oedd gan ei ddeiliaid a phawb o'i