Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/36

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amgyleh. Ar ol hyn unodd dri chantref Ystrad Tywi â phedwar cantref Ceredigion, a gelwir y rhai hynny saith gantref Seisyllwch. Ac yn cynyddu ei deyrnas felly y bu Pryderi fab Pwyll Pen Annwn hyd nes y daeth i'w fryd briodi. A'r wraig a fynnodd oedd Cicfa ferch Wyn Gohoew fab Gloew Wallt Lydan, fab Casnar Wledig, un o bendefigion yr ynys hon.

Ac felly y terfyna y gainc hon o'r Mabinogion.