Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Branwen Ferch Llyr

—————♦♦—————

DYMA YR AIL GAINC O'R MABINOGI

BENDIGAID Fran, fab Llyr, oedd frenin coronog ar yr ynys a gwisgai goron Llundain. Brynhawn-gwaith yr oedd yn Harlech yn Ardudwy, mewn llys iddo; ac yn eistedd yr oeddynt ar garreg Harlech uwchben y weilgi. A Manawyddan fab Llyr, ei frawd, oedd gydag ef, a dau frodyr o'r un fam ag ef, Nisien ac Efnisien,—a gwŷr-da eraill, fel y gweddai o gylch brenin. Yr oedd y ddau frawd yn feibion i Euroswydd, ond yr oeddynt o'r un fam ag yntau, sef Penardim ferch Beli fab Mynogan. A'r naill o'r gwŷr ieuainc hynny oedd dda,— ef a barai dangnefedd rhwng ei deulu pan y byddent lidiocaf, a Nisien oedd hwnnw. Y llall a barai ymladd rhwng y ddau frawd pan yr ymgarent. Ac fel yr oeddynt yn eistedd felly, hwy a welent dair llong ar ddeg yn dyfod o ddehau'r Iwerddon, ac yn cyrchu tuag atynt, a nofio'n dawel a chyflym yr oeddynt,—y gwynt o'u hol yn eu neshau'n ebrwydd tuag atynt.

Fel y daeth brenin dros y môr"Mi a welaf longau draw," ebe'r brenin, "yn dyfod yn ebrwydd tua'r tir. Erchwch i wyr y llys wisgo am danynt, a myned i edrych pa feddwl yw yr eiddynt."

Y gwŷr a wisgasant amdanynt, ac a nesasant i waered atynt. Wedi gweled y llongau o agos, diau oedd ganddynt na welsent longau cyweiriach eu dull na hwy.