Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Baneri têg gweddus o bali oedd arnynt. Ac ar hynny dacw un o'r llongau yn rhagflaenu y rhai eraill, a gwelent godi tarian yn uwch na bwrdd y llong,—a swch y darian i fyny yn arwydd tangnefedd. A neshaodd y gwŷr atynt fel yr ymglywent ymddiddan. Bwrw badau allan a wnaethant hwythau, a neshau tua'r tir, a chyfarch gwell i'r brenin. Y brenin a'i clywai hwythau o'r lle yr oedd ar garreg uchel uwch eu pen.

"Duw a roddo dda i chwi," ebe ef, "a chroesaw i chwi. Pwy biau y nifer llongau hyn, a phwy sydd bennaf arnynt hwy?

Arglwydd," ebe hwy, "Matholwch, brenin Iwerddon sydd yma, ac ef biau y llongau."

Beth," ebe'r brenin, "a fynnai ef? A fyn ef ddyfod i'r tir ?

"Na fyn, arglwydd," ebe hwy, "cennad yw atat hyd oni cheiff ei neges."

"Pa ryw neges yw yr eiddo ef?" ebe'r brenin.

"Mynnu ymgyfathrachu â thydi, arglwydd," meddent, "i ofyn Branwen ferch Llyr y daeth ef. Ac os da gennyt ti, ef a fyn uno Ynys y Cedyrn a'r Iwerddon i gyd, fel y byddont gadarnach."

"Ie," ebe yntau, "deued i'r tir, a chyngor a gymerwn ninnau am hynny."

A'r ateb hwnnw a aeth ato ef. Fel ceis- iodd brenin Iwerddon. "Minnau a af yn llawen," ebe ef. Daeth i'r tir, a llawen fuwyd wrtho. A chyd- gyfarfod mawr fu yn y llys y nos honno rhwng ei wyr ef a gwŷr y llys. Drannoeth cymerwyd cyngor yn y lle, ac yn y cyngor hwnnw penderfynwyd rhoddi Branwen i Fatholwch; a hi oedd drydedd prif riain yr ynys hon,---- tecaf morwyn yn y byd oedd hi. A phenderfynwyd priodi yn Aberffraw, ac i'r lluoedd hynny gychwyn oddiyno a chyrchu tuag Aberffraw,-Matholwch a'i