Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe yntau, "ac nid oes ymwared o'i fyned ef ymaith yn anhangnefeddus, ac nis gadawn iddo."

"Ie, arglwydd," ebe hwy, "anfon eto genhadau ar ei ol."

Anfonaf," ebe ef. "Cyfodwch, Manawyddan fab Llyr, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew Ysgwydd, ac ewch ar ei ol a mynegwch iddo y caiff farch iach am bob un a anafwyd. A chyda hynny efe a gaiff yn iawn wialennau o arian a fo leted a chyhyd ag ef ei hun, a Fel y rhoddwyd iawn chlawr aur cyfled a'i wyneb. A mynegwch iddo pa ryw ŵr a wnaeth hynny, ac mai o'm hanfodd innau y gwnaethpwyd ef, ac mai brawd un-fam a mi a wnaeth y drwg, ac nad hawdd gennyf finnau na'i ladd na'i ddifetha. Deued i ymweled â mi, a mi a wnaf ei dangnefedd ar y llun y mynno ei hun."

Y cenhadau a aethant ar ol Matholwch, a mynegasant iddo yr ymadrodd hwnnw yn garedig, ac efe a'u gwrandawodd.

"Ha wyr," ebe ef, "ni a gymerwn gyngor." Ac efe a aeth i'r cyngor, a meddyliasant, os gwrthod y telerau hynny a wnelent, fod yn debycach y cawsent gywilydd a fyddai fwy, na chael iawn a fyddai cymaint. A phenderfynu a wnaethant gymryd hynny, ac i'r llys y daethant yn dangnefeddus.

A threfnu y pebyll a'r lluestai a wnaethant iddynt yn y dull y trefnir neuadd, a myned i fwyta. Ac fel y dechreuasant eistedd ar ddechreu y wledd yr eisteddasant yn awr. A dechreu ymddiddan a wnaeth Matholwch â Bendigaid Fran. A chanfu Bendigaid Fran ef yn siarad yn araf a thrist wrth ei lawenydd yn wastad cyn hynny. A meddwl a wnaeth fod yr unben yn athrist oherwydd fychaned a gawsai o iawn am ei gam.