Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/45

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gefn, gŵr mawr anferthol ac ôl drygwaith arno; a gwraig yn ei ol. Ac os oedd ef fawr, mwy ddwywaith oedd ei wraig nag ef. A chyrchu ataf a wnaethant, a chyfarch gwell i mi."

"Ie," ebe mi, "pa gerdded sydd arnoch chwi? 'Dyma, arglwydd," ebe ef, "y rhyw gerdded sydd arnom ni. Ymhen pythefnos a mis y bydd baban gan y wraig hon. A'r mab a aner ganddi, ar ben ei bythefnos a mis a fydd yn ŵr ymladd, llawn arfau."

Cymerais arnaf eu cadw hwy; a ant gyda mi am flwyddyn, ac am flwyddyn y cefais hwy yn ddiwarafun, o hynny allan y gwarafunwyd hwy i mi. A chyn pen y pedwerydd mis parasant hwy eu hunain eu cashau yn y wlad trwy wneuthur drygau, a phoeni a gofidio y gwŷr-da a'r gwragedd da. O hynny allan cynhullodd fy nheyrnas am fy mhen, gan erchi i mi ymadael â hwy, a rhoddi dewis i mi, naill ai fy nheyrnas neu hwy. Dodais innau ar gyngor fy ngwlad beth a wneid â hwy. Nid aent hwy o'u bodd, ac nid oedd modd eu gyrru o'u hanfodd trwy ryfel. Ac yna yn y cyfyng-gyngor y penderfynasant wneud ystafell haearn oll. Ac wedi bod yr ystafell yn barod, cyrchu pob gôf yn Iwerddon yno a oedd berchen gefail a morthwyl, a pheri gosod cyfuwch a chrib yr ystafell o lo, a pheri rhoddi bwyd a diod yn ddiwall i'r wraig, a'i gŵr, a'i phlant. A phan wybuwyd eu bod wedi meddwi dechreuwyd cymysgu tân â'r glo oedd oddeutu'r ystafell, a chwythu y meginau hyd nes yr oedd y tŷ yn wynias am eu pen.

Ac yna y bu cyngor ganddynt ar ganol llawr yr ystafell, ac arhosodd y gŵr hyd nes oedd yr ochrau haearn yn wyn. A rhag dirfawr wres y cyrehodd yr ochr â'i ysgwydd, ac a'i tarawodd allan; ac ar ei ol yntau daeth ei wraig. Ac ni ddihangodd neb oddiyno