Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/46

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

namyn ef a'i wraig. "Ac yna, i'm tyb i, arglwydd," ebe Matholwch wrth Bendigaid Fran, " y daeth ef drosodd atat ti."

"Yn ddiau," ebe yntau, "daeth yma, a rhoddodd y pair i minnau."

"Pa ddelw, arglwydd, y derbyniaist ti hwynt hwy?"

Eu rhannu ym mhob lle yn fy mrenhiniaeth. Ac y maent yn lliosog, ac yn llwyddo ym mhob lle, ac yn cadarnhau y man y maent â'r gwyr ac arfau goreu a welodd neb."

Dilyn ymddiddan a wnaethant y nos honno tra fu dda ganddynt, a cherdd a chyfeddach. A phan welsant fod yn llesach iddynt fynd i gysgu nac eistedd yn hwy, i gysgu yr aethiant. Ac felly y treuliasant y wledd honno trwy ddigrifwch. Ac yn niwedd hynny cychwynnodd Matholwch, a Branwen gydag ef, tuag Iwerddon. Ac o Aber Menai y cychwynasant, mewn tair llong ar ddog, a daethant hyd yn Iwerddon.

Yn Iwerddon dirfawr lawenydd fu wrthynt. Ni ddeuai gŵr mawr na gwraig dda yn Iwerddon i ymweled â Branwen na roddai hi naill ai breichled, neu fodrwy, neu deyrndlws gwerthfawr iddo,—a fyddai arbennig i'w weled yn myned ymaith. A chlodfawr oedd hi yn eu mysg y flwyddyn honno; aeth ei chlod yn fwy, a'i chyfeillion yn lliosocach. Ac heblaw hynny, mab a aned iddi, a'r enw rodded arno oedd Gwern fab Matholwch. A rhoddi y mab ar faeth a wnaethpwyd yn y lle goreu yn Iwerddon.

Yn yr ail flwyddyn dyna gynnwrf yn Iwerddon am y gwaradwydd a gawsai Matholwch yng Nghymru, a'r Fel y poenydwyd Branwen siom wnaed iddo am ei feirch. Am hynny ei frodyr maeth, a'r rhai nesaf ato, a aethant yn llidiog tuag ato heb gelu. Ac wele ymgyfarfod yn Iwerddon fel na chai Matholwch lonydd nes dial ei