Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

sarhad. A'r dial a wnaethant oedd gyrru Branwen o'r un ystafell ag ef, a'i gorfodi i bobi yn y llys, a pheri i'r cigydd, wedi iddo fod yn dryllio y cig, ddyfod a tharo bonclust iddi beunydd. Ac felly y gwnaethpwyd ei phenyd.

"Ie, arglwydd," ebe ei wyr wrth Fatholwch, " par, weithian, wahardd y llongau a'r ysgraffau a'r corigau fel nad el neb i Gymru; ac a ddel yma o Gymru, carchara hwy, fel nad elont drachefn, rhag gwybod hyn."

Ac felly y bu, a blynyddoedd nid llai na thair blynedd y buont felly. Ac yn ystod yr amser hynny magodd Branwen aderyn drudwen, a dysgodd iaith iddi pan safai ar ymyl y noe gyda hi. A mynegodd i'r aderyn y rhyw ŵr oedd ei brawd; ac ysgrifennodd lythyr am y penydiau a'r amharch oedd arni; a rhwymodd y llythyr am fôn esgyll yr aderyn, ac anfonodd hi tua Chymru. A'r aderyn a ddaeth i'r ynys hon, a'r lle y cafodd Fendigaid Fran oedd yng Nghaer Saint yn Arfon. Disgynnodd ar ei ysgwydd, ac ysgydwodd ei phlu nes y gwelwyd y llythyr, ac y deallwyd i'r aderyn gael ei magu yn ddof.

Ac yna cymryd y llythyr, a'i edrych a wnaed; a phan ddarllenwyd y llythyr, ymboeni a wnaeth Bendigaid Fran am glywed y benyd a oedd ar Branwen; a dechreu anfon o'r lle hwnnw genhadau i gynnull yr ynys hon ynghyd. Ac yna y galwodd ato holl alluoedd pedair gwlad a saith ugain yn llwyr, a chwyno ei hun a wnaeth wrthynt am y boen oedd ar ei chwaer. Ac yna cymerwyd cyngor, ac yn y cyngor penderfynwyd myned i'r Iwerddon, a gadael seithwyr yn dywysogion yma, a Charadog fab Bran yn bennaf ar y saith marchog. Yn Edeyrnion y gadawyd y gwŷr hyn. Ac o achos hynny y dodwyd saith marchog ar y dref. A'r saith wyr oeddynt,—Caradog fab Bran, ac Efeydd Hir, ac Unig Glew