Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ysgwydd, ac Iddig fab Anarawg Walltgrwn, a Ffodor fab Erfyll, ac Wlch Minasgwrn, a Llashar fab Llaesar Llaes—gygwydd, a Phendaran Dyfed yn was ieuanc gyda hwy. Y saith hyn a drigodd yn saith goruchwyliwr i ofalu am yr ynys hon. A Charadog fab Bran oedd ben goruchwyliwr arnynt.

Bendigaid Fran a'r nifer a ddywedasom ni a hwyl— iasant tuag Iwerddon. Ac wrth nad oedd y weilgi yn Fel yr aeth Bran i Iwerddon fawr, daeth ef i ddwfr maes. Nid oedd namyn dwy afon,—Lli ac Archan y gelwid hwy. Wedi yr amser hynny y pellhaodd y weilgi y teyrnasoedd. Yna y cerddodd ef, a'i glud ar ei gefn ei hun, a daeth i dir Iwerddon. A gweision moch Matholwch oedd ar lan y môr, a hwy a ddaethant at Matholwch.

Arglwydd," ebe hwy, "henffych well."

"Duw a roddo dda i chwi," ebe ef. "Pa newydd sydd gennych? "

"Arglwydd," ebe hwy, mae gennym ni newyddion rhyfedd iawn, coed a welsom ar y weilgi, yn y lle ni welsom erioed un pren."

Dyna beth rhyfedd," ebe ef. "A welech chwi ddim namyn hynny?"

Gwelem, arglwydd," ebe hwy, "fynydd mawr gerllaw y coed, a hwnnw ar gerdded. Ac ochr aruchel oedd i'r mynydd, a llyn o bob tu i'r ochr. A'r coed a'r mynydd a phopeth o hyn oll oedd ar gerdded."

Ie," ebe yntau, "nid oes yma neb a wypo beth yw hyn, onis gŵyr Branwen. Gofynnwch iddi."

Cenhadau a aeth at Franwen.

Arglwyddes," ebe hwy, "beth a debygi di yw hynny?"

'Gwyr Ynys y Cedyrn yn dyfod drwodd o glywed am fy mhoen a'm hamarch."