Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/50

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

haeddai ef o'i fodd namyn da. "Ac y mae Matholwch yn rhoddi brenhiniaeth Iwerddon i Wern fab Matholwch, dy nai dithau, fab dy chwaer. A hyn y mae yn ei roddi yn dy ŵydd, yn lle y cam a'r gwarth a wnaethpwyd i Franwen. Ac yn y lle y mynni di, ai yma, ai yn Ynys y Cedyrn, y bydd Matholwch byw."

"Ie," ebe yntau Bendigaid Fran, "oni allaf fi fy hun gael y frenhiniaeth, ni chymeraf gyngor am eich cenadwri chwi. O hyn hyd nes y daw cenadwri amgen, ni chewch ateb gennyf fi."

"Ie," ebe hwythau, "yr ateb goreu a gaffym ninnau i'w ddweyd wrthyt, ni a ddeuwn ag ef. Ac aros dithau ein cenadwri ni."

"Arhosaf," ebe ef, "a dowch yn ebrwydd." Y cenhadau a aethant rhagddynt, a daethant at Fatholwch.

Arglwydd," ebe hwy, "paratoa ateb a fo gwell i Fendigaid Fran; ni wrandawai ddim ar yr ateb oedd gennym ni iddo."

"Ha wŷr," ebe Matholwch, beth yw eich cyngor chwi?"

"Arglwydd," ebe hwy, "nid oes iti gyngor ond un. Ni thrigodd ef mewn tŷ erioed," ebe hwy. Gwna dithau dy i'w gynnwys ef a gwŷr Ynys y Cedyrn yn y naill borth i'r tŷ, a thithau a'th lu yn y porth arall, a dyro dy frenhiniaeth i'w law, a gwna warogaeth iddo. Ac o anrhydedd gwneuthur y tŷ iddo," ebe hwy, "peth na chafodd erioed dŷ a'i cynhwysai ynddo, efe a dangnefedda â thi."

A'r cenhadau a aethant a'r genadwri honno at Fendigaid Fran. Yntau a gymerth gyngor, ac yn y cyngor penderfynwyd ei derbyn; a thrwy gyngor Branwen y bu hynny oll, a rhag dinistrio y wlad y gwnaeth hynny.