Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ar y cytundeb hwnnw y penderfynasant a'r tŷ a adeiladwyd yn fawr ac eang. Ac ystryw a wnaeth y Fel y bu tangnefedd a brad Gwyddyl, a'r ystryw oedd dodi hoel o bob tu i bob colofn o'r can colofn a oedd yn y tŷ, a dodi boli croen ar bob hoel a gŵr arfog ym mhob un ohonynt.

A hyn a wnaeth Efnisien,—dyfod i fewn o fiaen llu Ynys y Cedyrn, ac edrych, â golygon gorwyllt anrhugarog, ar hyd y tŷ, a gweled y boliau crwyn oedd ar y pyst.

"Beth sydd yn y boli hwn? ebe ef wrth un o'r Gwyddyl.

"Blawd, enaid," ebe yntau.

Teimlodd Efnisien y boli, nes y clywodd ben y dyn, a gwasgodd y pen hyd oni chlywodd ei fysedd yn cyfarfod yn ei ymennydd trwy'r asgwrn.

A gadael hwnnw a wnaeth, a dodi eì law ar un arall a gofyn,—

"Beth sydd yma?"

" Blawd," meddai y Gwyddyl.

A'r un chware a wnaeth ef â phawb ohonynt, hyd nas gadawodd efe ŵr byw o'r oll ddau can ŵr, eithr un. A dyfod at hwnnw a wnaeth a gofyn,—

"Beth sydd yma?"

"Blawd, enaid," ebe'r Gwyddyl.

A'i deimlo a wnaeth yntau hyd nes y cafodd ei ben, ac fel y gwasgasai bennau y rhai eraill y gwasgodd ben hwn. Clywodd arfau am ben hwnnw, ond nis gadawodd ef nes ei ladd.

Ac yna canodd englyn,—

"'Yssit yn y boli hwn amryw-flawt;
Ceimeit cynnifieit disgynneit,
Yn trin rac cytwyr cat barawt." [1]


  1. Yn y sach hon mae blawd neilltuol, milwyr heinif wedi disgyn i'r ymladdfa, ymladdfa wedi eí pharatoi cyn yr ymladdwyr.