Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ar hynny daeth y niferoedd i'r tŷ a daeth gwŷr o Ynys Iwerddon i'r tŷ o'r naill borth, a gwŷr o Ynys y Cedyrn o'r porth arall. A chyn gynted ag yr eisteddasant y bu undeb rhyngddynt, ac y rhoddwyd y frenhiniaeth i'r mab. Ac yna wedi fod tangnef, galwodd Bendigaid Fran y mab ato. A dygodd Bendigaid Fran y mab at Fanawyddan. A phawb a'i gwelai a'i carai. Ac oddiwrth Fanawyddan y galwodd Nisien fab Euroswydd y mab ato. Y mab a aeth ato yn dirion.

"Paham," meddai Efnisien, na ddaw fy nai fab chwaer ataf fi? Pe na byddai'n frenin ar Iwerddon, da fuasai gennyf ymdirioni â'r mab."

"Aed yn llawen," ebe Bendigaid Fran. Y mab a aeth ato yn llawen.

"I Dduw y dygaf fy nghyffes," ebe yntau yn ei feddwl, "mai anhebig gan y teulu yw y gyflafan a wnaf fi yr awr hon."

A chodi i fyny a wnaeth, a chymryd y mab gerfydd ei draed; ac heb oedi, a chyn cael o undyn afael ynddo, gwanodd y mab yn wysg ei ben i'r tân cynheuedig.

A phan welodd Branwen y mab yn boeth yn y tân, hi a geisiodd neidio i'r tân o'r lle yr oedd yn eistedd rhwng ei dau frawd; ond gafaelodd Bendigaid Fran ynddi ag un llaw, a'i darian yn y llaw arall. Ac yna cododd pawb ar hyd y tŷ, a dyma y cynnwrf mwyaf a fu gan deulu unty—pawb yn cymryd ei arfau. Ac yna y dywed Morddwyd Tyllion,—"Gwern gwyngoch! Och Forddwyd Tyllion." A phan oedd pawb yn defnyddio eu harfau, daliodd Bendigaid Fran Branwen rhwng ei darian a'i ysgwydd. Ac yna y dechreuodd y Gwyddelod gynneu tân dan y pair dadeni; ac yna bwriwyd y cyrff i'r pair hyd nes oedd yn llawn; a thrannoeth cyfodent yn wyr ymladd cystal ag o'r blaen, eithr na allent siarad.