Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A phan welodd Efnisien gyrff gwyr o Ynys y Cedyrn heb fywyd yn yr un man, y dywedodd yn ei feddwl,— O fy Nuw," ebe ef, "gwae fi fy mod yn achos y golled hon o wyr Ynys y Cedyrn, a gwarth fydd i mi os na cheisiaf ymwared rhag hyn." A gorweddodd ymhlith cyrff y Gwyddyl, a daeth dau Wyddel bonllwm ato, a'i fwrw i'r pair, yn rhith Gwyddel. Ymestynnodd yntau yn y pair, hyd nes y torrodd y pair yn bedwar dryll. Ac yna torrodd ei galon yntau. Ac oherwydd hynny y bu fyw hynny a fu byw o wyr Ynys y Cedyrn, ac ni bu fyw oddieithr dianc o seithwŷr, a brathu Bendigaid Fran yn ei droed â gwenwyn waew. Y seithwyr a ddihengodd oedd Pryderi, Manawyddan, Glifieri, Eil Taran, Taliesin, Ynawg Gruddieu fab Muriel, a Heilyn fab Gwyn Hen.

Ac yna y parodd Bendigaid Fran iddynt dorri ei ben. A chymerwch chwi y pen," ebe ef, "a dygwch ef i'r Gwynfryn yn Llundain, a chleddwch ef yno a'i wyneb at Ffrainc, a chwi a fyddwch ar y ffordd yn hir. Fel y daeth saith o Iwerddon Yn Harlech y byddwch saith mlynedd ar ginio, ac adar Rhianon yn canu i chwi. A bydd cystal gennych gymdeithas y pen ag y bu oreu gennych pan fu arnaf fi erioed. Ac yng Nghwalas ym Mhenfro y byddwch bedwar ugain mlynedd. A gellwch fod yno a'r pen yn ddilwgr gennych hyd nes yr agoroch y drws sy'n wynebu Aber Henfelen tua Chernyw. Ac o'r pan agoroch y drws hwnnw ni allwch fod yno, ond cyrchwch Lundain i gladdu y pen, ac ewch ymlaen rhagddoch."

Ac yna torrwyd ei ben ef, a chychwynnodd y seith-wŷr hynny drwodd gan ddwyn y pen gyda hwy, a Branwen yn wythfed. Ac yn Aber Alaw yn Nhal Ebolion y daethant i'r tir, ac yno eistedd a wnaethant a