Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gorffwys. Ac edrychodd Branwen ar Iwerddon ac ar Ynys y Cedyrn, hynny welai ohonynt.

"O fab Duw," ebe hi, gwae fi o'm genedigaeth. Nid da difetha dwy ynys o'm hachos i."

Fel y bu farw BranwenA dodi ochenaid fawr a wnaeth, a thorrodd ei chalon ar hynny. A hwy a wnaethant fedd petryal iddi, ac a'i claddasant ar lan afon Alaw.

Wedi hynny cerdded a wnaeth y seith-wŷr tua Harlech, a'r pen ganddynt. Fel yr oeddynt yn cerdded, dyma dyrfa o wŷr a gwragedd yn cyfarfod â hwy. "A oes gennych chwi newyddion?" ebe Manawyddan.

"Nac oes," ebe hwy, "ond goresgyn o Gaswallon fab Beli Ynys y Cedyrn, a'i fod yn frenin coronog yn Llundain."

"Beth ddarfu," ebe hwythau, "Caradog fab Bran, a'r seith-wŷr adawyd gydag ef yn yr ynys hon?"

"Daeth Caswallon i'w herbyn, a lladdodd y chwe-gwŷr, a thorrodd Caradog yntau ei galon o dristwch am weled cleddyf yn lladd ei wŷr, ac na wyddai pwy a'u lladdai.' Yr oedd Caswallon yn gwisgo llen hûd am dano, ac ni chanfyddai neb ef yn lladd y gwŷr, ond gwelent ei gleddyf yn unig. "Ni fynnai Caswallon ei ladd yntau, ei nai fab ei gefnder oedd." Ahwnnw oedd y trydydd dyn a dorrodd ei galon o alar. "Pendaran Dyfed, a oedd yn was ieuanc gyda'r seith-wŷr, a ddihangodd i'r coed," ebe hwy. Ac yna y cyrchasant hwythau Harlech, ac a ddechreuasant eistedd ac ymddiwallu â bwyd a diod. A daeth tri aderyn gan ddechreu canu iddynt Fel y Canodd adar Rhianonryw gerdd, ac o bob cerdd a glywsant, difwyn oedd pob un wrthi hi. Ac er fod yr adar i'w gweled ymhell uwchben y weilgi allan, cyn amlyced oeddynt iddynt a phe byddent gyda hwy. Ac wrth y cinio hwnnw y