Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

buont saith mlynedd. Ac ymhen y seithfed flwyddyn y cychwynasant tua Gwales, ym Mhenfro. Ac yno yr oedd iddynt le teg brenhinol uwch ben y weilgi. A neuadd fawr oedd yno iddynt, ac i'r neuadd yr aethant. A'i dau ddrws oedd yn agored, a'r trydydd ddrws, yr hwn wynebai tua Chernyw, oedd ynghauad.

"Weldi," ebe Manawyddan, "dacw y drws ni ddylem ni ei agor."

A'r nos honno y buont yno yn ddi-wall a diddan ganddynt. Ac er a welsent o fwyd yn eu gwydd, ac a glywsent am dano, ni ddoi i'w cof ddim amdanynt hwy, nac am alar o fath yn y byd. Ac yno y treuliasant hwy y pedwar ugain mlynedd, fel na wybuant iddynt erioed dreulio ysbaid mor ddifyr a hyfryd a hwnnw. Nid oeddynt anesmwythach ar gwmni ei gilydd na phan ddaethant yno gyntaf, ac ni fu anesmwythach ganddynt gyd-fyw â'r pen na phan fuasai Bendigaid Fran yn fyw gyda hwy. Ac o achos hynny y pedwar ugain mlynedd a elwid, "Ysbaid Urddawl Ben." Ysbaid Branwen a Matholwch oedd yr amser yr aethpwyd i Iwerddon.

Hyn a wnaeth Heilyn fab Gwyn un diwrnod,—"Mefl ar fy marf onid agoraf y drws," ebe ef, oni agoraf y drws i wybod ai gwir ddywedir am dano." Agor y drws a wnaeth, ac edrych ar Fel yr agorwyd drws y de Gernyw ac ar Aber Henfelen. A phan edrychasant, yr oedd mor hysbys ganddynt bob colled a gollasant erioed, pob câr a chydymaith a gollasant, a phob drwg a'i cyfarfyddodd, a phe bai yno y cyferfuasai â hwy,—ac yn bennaf am eu harglwydd.

Ac o'r awr honno ni allasent orffwys, namyn cychwyn a'r pen tua Llundain. Pa hyd bynnag y buont ar y ffordd, hwy a ddaethant hyd yn Llundain, a chladdasant y pen yn y Gwynfryn.