Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A hwnnw fu y trydydd madeudd pan guddiwyd; a'r trydydd anfad ddatcudd, pan ddatguddiwyd; canys ni ddeuai gormes byth drwy fôr i'r ynys hon tra y byddai y pen yn y cudd hwnnw.

A dyma fel y dywed y cyfarwydd eu hanes hwy,— y gwŷr y cychwynnwyd Iwerddon ohonynt. Yn Iwerddon ni adawyd dyn byw namyn pum gwraig mewn ogof yn niffaethwch Iwerddon. O'r pum gwragedd hynny ganed pum mab yn yr un cyfnod; a magasant hwy nes y daethant yn fawr. A rhanwyd y wlad rhyngddynt ill pump. Ac o achos y rhaniad hwnnw y gelwir eto bum rhan Iwerddon. Ac edrych y wlad a wnaethant ffordd y buasai rhyfeloedd, a chael aur ac arian nes oeddynt gyfoethog.

A dyma fel y terfyna y gainc hon o'r Mabinogi ynghylch dyrnod Branwen, yr hon a fu y drydedd anfad ddyrnod yn yr ynys hon; ac ynghylch Bran pan aeth gwŷr deg gwlad a saith ugain i'r Iwerddon i ddial dyrnod Branwen; ac am y cinio yn Harlech saith mlynedd; ac am ganiad adar Rhianon ac am fywyd pen bedwar ugain mlynedd.