Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Dyfod i'r neuadd a wnaethant,—nid oedd yno neb. Aethant i'r castell a'r hun—dy; ni welent neb. Yn y fedd—gell ac yn y gegin, nid oedd amgen na diffaethwch. Dechreuodd y pedwar wledda, a hela, ac ymddifyrru, a rhodio y wlad a'u tir i edrych a welent dŷ neu breswylfa; ond ni welent ddim ond llydnod coed. Ac wedi cael eu gwledd a'u lluniaeth ohonynt, dechreuasant ymborthi ar gig hela, a physgod a mêl gwyllt. Ac felly y treuliasant y flwyddyn gyntaf a'r ail yn ddifyr, ond o'r diwedd diffygio a wnaethant.

"Yn wir," ebe Manawyddan, "ni byddwn byw fel hyn. Awn tua Lloegr, a cheisiwn grefft y caffom ein hymborth oddiwrthi."

Aethant i Loegr, a dod hyd yn Henffordd, a'r gwaith a gymerasant oedd gwneud cyfrwyau. A dechreuodd Manawyddan lunio y corfau, a'u lliwio â chalch lasar, fel y gwelsai gan Lasar Fel yr aeth pedwar i Loegr Llaesgygwydd, a gwneuthur calch lasar fel y gwnaeth y gŵr arall. Ac am hynny y gelwir ef eto'n galch lasar, am ei wneuthur gan Lasar Llaesgygwydd. A thra y ceid y gwaith hwnnw gan Fanawyddan, ni phrynnid na chorf na chyfrwy gan gyfrwywr dros wyneb Henffordd. Ac yn fuan canfu pob un o'r cyfrwy—yddion eu bod yn colli llawer o'u hennill, ac na phrynnid dim ganddynt hwy ond pan nas ceid gan Fanawyddan. Yna ymgynullasant oll, a phenderfynasant ei ladd ef a'i gydymaith. Cawsant hwythau rybudd am hyn, a chymerasant gyngor i adael y dref.

Yn wir," ebe Pryderi, "ni chynghoraf fi adael y dref, ond lladd y taeogion acw."

Nage," ebe Manawyddan, pe yr ymladdem â hwy, clod drwg a fyddai arnom, a'n carcharu a wneid. Gwell yw in'," ebe ef, "fyned tua thref arall i ennill ein bywioliaeth ynddi."