Ac yna aethant ill pedwar tua thref arall.
"Pa gelfyddyd," ebe Pryderi, a gymerwn yma?"
"Gwnawn dariannau," ebe Manawyddan."
"A wyddom ni rywbeth am y grefft honno?" ebe Pryderi.
"Ni a'i profwn," ebe yntau.
Dechreuasant wneuthur tariannau, a'u llunio fel y tariannau da a welsent, a rhoddi arnynt y lliw a roddasent ar y cyfrwyau. A'r gwaith hwnnw a lwyddodd ganddynt, fel na phrynnid tarian yn yr holl dref, ond pan na cheid un ganddynt hwy. Cyflym oedd eu gwaith a difesur oedd y tariannau a wnaent. Buont felly hyd nes i'w cyd-drefwyr godi i'w herbyn, a phenderfynu ceisio eu lladd. Rhybudd a ddaeth iddynt hwythau, a chlywed fod y gwŷr a'u bryd ar eu dienyddio.
"Pryderi," ebe Manawyddan, "mae y gwŷr hyn yn mynnu ein difetha."
"Na chymerwn ninnau hynny gan y taeogiaid hyn awn i'w herbyn a lladdwn hwynt."
Nage," ebe yntau, "Caswallon a'i wyr a glywai hynny, a diwedd fyddai arnom. Awn i dref arall."
I dref arall y daethant.
"Pa gelfyddyd yr awn ni wrthi yma ? " ebe Manawyddan.
"Yr hon a fynni o'r rhai a wyddom ni," ebe Pryderi. Nage," ebe yntau, "gwnawn gryddiaeth, ac ni fydd calon gan gryddion i ymladd â ni, nac i'n gwarafun."
"Ni wn i ddim am honno," ebe Pryderi.
"Mi a'i gwn," ebe Manawyddan, a mi a ddysgaf iti wnio. Ac nid ymyrrwn â pharatoi y lledr, ond ei brynnu yn barod a gwneud y gwaith o hono."
Ac yna dechreuodd brynnu y cordwal tecaf a gafodd yn y dref, a lledr, ond hwnnw ni phrynnai eithr yn lledr gwadnau. A dechreuodd ymgymdeithasu â'r eurych