Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

A'i aros yntau a wnaeth Manawyddan hyd tua diwedd y dydd. A phrynhawn byr, wedi bod yn ddiau ganddo na chlywai ddim newyddion am Bryderi, na'r cŵn, daeth tua'r llys. Pan ddaeth i mewn, y peth a wnaeth Rhianon oedd edrych arno.

Pa le mae dy gydymaith di a'th gŵn?" ebe hi. Dyma fy hanes," ebe yntau, gan ei adrodd oll. "Yn wir," ebe Rhianon, "cydymaith drwg fuost di, a chydymaith da a gollaist di." Gyda'r gair, aeth allan.

Fel y Collwyd RhianonAc i'r ardal y mynegasai ef fod y gŵr a'r gaer, cyrchu yno a wnaeth hithau. Gwelodd borth y gaer yn agored, a phopeth yn eglur, ac i mewn yr aeth. Ac fel yr ai, gwelai Bryderi yn ymafael â'r cawg, a daeth ato.

Och, arglwydd," ebe hi, "beth a wnai di yma?

A gafaelodd yn y cawg gydag ef. A chydag iddi afael, glynodd ei dwylaw hithau wrth y cawg, a'i dau droed wrth y llech, hyd nad allai hithau ddywedyd un gair. Ac ar hynny, gydag y bu nos, dyma dwrf yn eu hymyl a chawod o niwl; a chyda hynny, diflannu y gaer, ac ymaith a hwythau.

Pan welodd Cicfa, ferch Gwyn Gloew, nad oedd neb yn y llys namyn Manawyddan a hithau, ymofidiodd gymaint fel na ofalai pa un ai byw ai marw wnai. Edrychodd Manawyddan ar hynny,— "Yn wir," ebe ef, cam a wnai a mi, os mai rhag fy ofn i yr ymofidi di. Y nef fydd dyst it na welaist Fel yr ofnodd Cicfa gyfaill cywirach nag y cei di fi, tra y mynno Duw iti fod felly. Yn wir, pe buaswn yn nechreu fy ieuenctid, buaswn gywir i Bryderi a chywir i tithau, ac na fydded un ofn arnat," ebe ef. "Yn wir, ti a gei y cyfeillgarwch a fynni gennyf fi, hyd eithaf fy