Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ngallu, tra y gwelo Duw yn dda i mi fod yn y trallod hwn, a'r gofal."

"Duw a dalo it," ebe hi, "gwn y gwnai fel y dywedi."

A llawen ac eofn fu y forwyn o achos hynny.

"Ie, enaid," ebe Manawyddan, "nid oes cyfle i ni drigo yma, ein cŵn a gollasom, ac ni allwn gael ymborth. Awn tua Lloegr, hawsaf yw i ni gael ymborth yno."

"Yn llawen, arglwydd," ebe hi, "ni a wnawn hynny."

A cherddasant ynghyd i Loegr.

"Arglwydd," ebe hi, "pa grefft a gymeri? Cymer un lanwaith."

"Ni chymeraf fi," ebe ef, namyn cryddiaeth, fel y gwnaethum gynt."

"Arglwydd," ebe hi, "nid gweddus honno i ŵr mor fedrus ac urddasol a thydi."

"Honno a gymeraf," ebe ef.

Dechreu ei gelfyddyd a wnaeth, a threfnu ei waith o'r cordwal tecaf a gai yn y dref. Ac fel y dechreuasant yn y lle arall, dechreuodd roddi byclau euraidd ar yr esgidiau, fel mai ofer a gwael oedd gwaith holl gryddion y dref wrth ei eiddo ef. A thra y ceffid esgid neu hosan ganddo ef, ni phrynnid gan eraill ddim. Blwyddyn a dreuliodd ef felly, hyd nes oedd y cryddion yn dal cenfigen; ac ymgynghorasant yn ei erbyn. Ac yna y daeth rhybuddiau iddo fod y cryddion wedi penderfynu ei ladd.

Arglwydd," ebe Cicfa, pam y goddefir hyn gan y tacogion?"

"Nage," ebe yntau, ni a awn i Ddyfed."

I Ddyfed yr aethant. A hyn a wnaeth Manawyddan pan gychwynnodd tua Dyfed,—dwyn baich o wenith. Ac aeth i Arberth, ac yno y cyfaneddodd.