Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/71

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ŵr mor urddasol a thydi gyffwrdd â phryf fel hwnnw,— gollwng ef ymaith."

"Na ollyngaf, yn wir," ebe yntau. "Yn lladrata oddiarnaf y cefais i ef, a chyfraith lleidr a wnaf finnau âg ef,—ei grogi."

Arglwydd," ebe yntau, rhag gweled gŵr mor urddasol a thydi wrth waith felly, punt a gefais i o gardota, mi a'i rhoddaf i ti,—a gollwng y pryf hwnnw ymaith."

"Na ollyngaf, yn wir, ac nis gwerthaf."

"Gwna dithau, arglwydd," ebe ef, "nid yw o bwys gennyf, ond rhag gweled gŵr mor urddasol a thydi yn cyffwrdd â phryf felly." Ac aeth yr ysgolhaig ymaith. Ac fel yr oedd yn rhoddi y ffon yn groes ar y fforch, wele offeiriad yn dod tuag ato ar farch yn drefnus. Arglwydd, dydd da iti," ebe ef.

Fel yr erfyniodd ysgolhaig"Duw a roddo dda iti," ebe Manawyddan, "a'th fendith dod i minnau."

"Bendith Duw i ti. A pha beth wyt yn ei wneuthur, arglwydd?" ebe ef.

"Crogi lleidr a gefais yn lladrata oddiarnaf," ebe ef.

"Pa ryw leidr yw hwnnw, arglwydd?" ebe yntau.

"Pryf," ebe ef, "ar lun llygoden. A lladrata a wnaeth oddiarnaf, a dihenydd lleidr a wnaf finnau arno."

"Arglwydd," ebe yntau, "rhag dy weled yn cyffwrdd a'r pryf hwnnw, mi a'i prynnaf, gollwng ef."

Myn fy nghyffes i Dduw, ei werthu, na'i ollwng, nis gwnaf i."

"Gwir, arglwydd, nid yw ef yn werth dim; eithr rhag dy weled di yn ymhalogi gyda'r pryf hwnnw, mi a roddaf i ti deirpunt,—a gollwng ef ymaith."

"Na fynnaf, ar fy ngwir," ebe yntau, "un pris am dano, namyn yr un a hacdda,—ei grogi."

"Yn llawen, arglwydd, gwna dy fympwy."