Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/74

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Ie," ebe yntau, "rhag hynny y gofynais ef."

"Rhyddha weithion fy ngwraig im."

"Na ryddhaf, yn wir, hyd oni welwyf Bryderi a Rhianon yn rhydd gyda mi."

"Wel di, dyma hwy yn dyfod," ebe ef.

Ac ar hynny dyma Pryderi a Rhianon yn dod. Cyfodi i'w cyfarfod wnaeth yntau i'w croesawu, ac eisteddasant ynghyd.

Fel y daeth Pryderi a Rhianon yn ol"Ha, ŵr da, rhyddha fy ngwraig im weithion," ebe'r esgob. "Cefaist yr oll a ofynaist."

Gollyngaf yn llawen," ebe ef.

Yna y gollyngodd efe hi. Tarawodd yntau hi â hud-lath, a dad-rithiwyd hi yn wraig ieuanc decaf a welodd neb.

"Edrych o'th gylch ar y wlad," ebe ef, " a thi a weli yr holl aneddau fel y buont oreu."

Yna cyfodi a wnaeth yntau, ac edrych. A phan edrychodd, ef a welai yr holl wlad yn gyfannedd, ac yn llawn o ddiadelloedd a phreswylfeydd.

"Pa waith fu Pryderi a Rhianon yn ei wneud?" ebe ef.

"Yr oedd gyrdd porth fy llys i am wddf Pryderi; a choleri'r asynod, pan ddeuent o gywain gwair, am wddf Rhianon,―ac felly y bu eu carchar."

Ac oherwydd hynny y gelwid yr hanes hon yn Fabinogi "Mynweir a Mynordd."

Ac felly terfyna y gainc hon yma o'r Mabinogi.