Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/77

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Math Fab Mathonwy

—————♦♦—————

HON YW Y BEDWAREDD GAINC O'R MABINOGI

MATH fab Mathonwy oedd arglwydd ar Wynedd, a Phryderi fab Pwyll oedd arglwydd ar un cantref ar hugain yn y Deheu, sef oedd y rhai hynny, saith gantref Dyfed, a saith gantref Morgannwg, pedwar cantref Ceredigion, a thri Ystrad Tywi. Ac yn yr amser hwnnw, Math fab Mathonwy ni fyddai byw namyn tra byddai morwyn yn gweini arno, onid cynnwrf rhyfel a'i llesteiriai.

A'r forwyn oedd gydag ef oedd Goewin ferch Pebin, o Ddôl Pebin yn Arfon,—a honno oedd y forwyn decaf yn ei hoes, am a wyddid yno. Ac yng Fel y Pruddhaodd Gilfaethwy fab DonNghaer Dathyl, yn Arfon, yr oedd Math yn wastadol. Ac ni allai gylchu ei wlad; namyn Gilfaethwy fab Don, ac Efeydd fab Don, ei neiaint feibion ei chwaer, a'r teulu gyda hwy gylchu y wlad drosto. Ac yr oedd Goewin gyda Math yn wastadol, ac yntau, Gilfaethwy fab Don, a ddodes ei fryd ar y forwyn, a'i charu hyd na wyddai beth a wnai am dani. Ac am hynny, wele, ei liw a'i wedd a'i ansawdd yn adfeilio o'i chariad, hyd nad oedd hawdd ei adnabod. Un diwrnod, sylwodd Gwydion, ei frawd, yn graff arno.

"Ha was," ebe ef, "beth a ddigwyddodd i ti?"