Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/79

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Fe eill eich nacau," ebe yntau.

"Nid drwg im fyned, arglwydd," ebe ef, "ni ddeuaf oddiyno heb y moch."

Fel y daeth y moch i Wynedd"Cerdda rhagot, yn llawen," ebe Math. Ac aeth ef a Gilfaethwy a deg o wyr gyda hwynt hyd y fan a elwir yn awr Rhuddlan Teifi, yng Ngheredigion, lle yr oedd llys Pryderi. Aethant i fewn yn rhith beirdd, a llawen fuwyd wrthynt. A'r nos honno eisteddai Gwydion wrth ochr Pryderi.

"Ie," ebe Pryderi, da fuasai gennym gael chwedl gan rai o'r gwŷr ieuainc acw."

"Moes yw gennym ni, arglwydd," ebe Gwydion, "y nos gyntaf y deler at ŵr mawr, i'r pencerdd ddywedyd. A mi a ddywedaf chwedl yn llawen."

A'r goreu yn y byd am ddweyd chwedl oedd Gwydion.

A'r nos honno diddanodd y llys âg ymddiddanion digrif a chwedlau nes oedd hoff gan bawb yn y llys, a diddan oedd gan Bryderi ymddiddan âg ef. Ac wedi hynny gofynnodd Gwydion,—

"Arglwydd, a ofyn neb fy neges gennyt yn well na myfi fy hun?"

"Na wna," ebe yntau, "tafod rwydd yw dy un di."

Dyma fy neges innau, arglwydd," ebe ef. Erfyn gennyt yr anifeiliaid anfonwyd iti o Annwn."

"Ie," ebe yntau, "hawddaf yn y byd fuasai hynny oni bai fod amod rhyngof â'm gwlad am danynt, sef yw hynny, nad elo y moch oddi wrthyf oni hiliont eu rhif ddwywaith yn y wlad."

Arglwydd," ebe yntau, gallaf dy ryddhau o'r amod yna.

Ac fel hyn y gallaf. Na ddyro y moch im' heno, ac na naca fi ohonynt, ac yfory danghosaf gyfnewid i ti am danynt."

A'r nos honno aeth ef a'i gydymdeithion i'r llety i gymryd cyngor.