"Ha wŷr," ebe ef, "ni chawn ni y moch er eu herchi."
"Wel," ebe hwythau, "drwy ba fedr y ceir hwy?"
"Mi a baraf eu cael," ebe Gwydion.
Yna yr aeth ef at ei gelfyddydau, a dechreuodd ddangos ei hud, a hudodd ddeuddeg march rhyfel; a deuddeg milgi bronwyn du, pob un ohonynt a deuddeg torch a deuddeg cadwyn wrthynt, a'r neb ar a'u gwelai ni wyddent na baent aur; a deuddeg cyfrwy ar y meirch, ac ymhob lle y dylai fod haearn arnynt yr oedd aur i gyd; a ffrwynau o'r un defnydd. Ac aeth a'r cŵn a'r meirch at Pryderi.
"Dydd da iti, arglwydd," ebe ef.
"Duw a roddo dda iti," ebe yntau, a chroesaw iti.' Arglwydd," ebe ef, "dyma ryddid i ti am y gair a ddywedaist neithiwr am y moch, na roddet ac na werthet hwy. Ti a elli eu cyfnewid er a fo gwell. Minnau a roddaf iti y deuddeg march yma fel y maent yn gywir, a'u cyfrwyau a'u ffrwynau; a'r deuddeg milgi, a'u coleri a'u cadwynau fel y gweli; a'r deuddeg tarian euraidd a weli di acw."
Y rhai hynny a rithiasai ef o fwyd llyffant.
"Ie," ebe ef, "ni a gymerwn gyngor."
Ac yn y cyngor penderfynwyd rhoddi'r moch i Gwydion, a chymryd y meirch a'r cŵn a'r tariannau ganddo yntau. Yna y cymerasant hwythau gennad, a dechreuasant gerdded â'r moch.
"Ha, gyd-deithwyr," ebe Gwydion, "rhaid i ni gerdded yn brysur, ni phery yr hud ond diwrnod."
A'r nos honno y cerddasant hyd yng ngwarthaf Ceredigion, y lle a elwir eto o achos hynny Mochdref.
Trannoeth cymerasant eu hynt dros Elenydd, a'r nos honno y buont rhwng Ceri ac Arwystli, yn y dref a elwir hefyd am hynny Mochdref. Ac oddiyno cerddasant rhagddynt, a'r nos honno daethant i gwmwd ym