Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/82

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

encilio. Ac enciliasant hyd y lle a elwir eto Nantcoll. Hyd yno yr ymlidiwyd hwy, lle bu lladdfa ddifesur ei maint. Yna y ciliasant hyd y lle a elwir Dolbenmaen, yno y rhoddasant eu harfau i lawr gan geisio heddwch, a gwystl a roddodd Pryderi i gadw'r heddwch, sef Gwrgi Gwastra yn un o bedwar ar hugain o feibion gwŷr—da.

Yna cerddasant mewn heddwch hyd y Traeth Mawr, ond wedi cyrraedd Melenryd, ni ellid atal y gwŷr traed Fel y bu farw Pryderi ymsaethu. Gyrrodd Pryderi genhadon at Fath fab Mathonwy, i ofyn iddo wahardd ei wŷr saethu, a gadael y mater rhyngddo ef a Gwydion fab Don, canys ef achosodd yr ymladd. Aeth y cenhadau at Fath.

"Ie," ebe Math, yn wir, os da gan Gwydion fab Don hyn, mi a'i caniataf yn llawen. Ni chymhellaf finnau neb fyned i ymladd heb wneuthur o honom ninnau ein gallu."

"Yn wir," ebe'r cenhadau, "teg, medd Pryderi, yw i'r gŵr barodd hyn o gam iddo ddodi ei gorff yn erbyn ei gorff yntau, a gadael ei deulu yn segur."

"Yn wir," ebe Gwydion, "ni archaf i wŷr Gwynedd ymladd droswyf fi, a minnau fy hun yn cael ymladd â Phryderi,—mi a ddodaf fy nghorff yn erbyn ei gorff yntau yn llawen."

Mynegwyd hynny i Pryderi.

"Ie," ebe Pryderi, "ni archaf finnau neb ofyn fy iawn namyn fy hun."

Y gwŷr hynny a neilltuwyd, a dechreuodd y ddau wisgo eu harfau. Ac ymladd a wnaethant. Ac o nerth grym, a llid, a hud, a lledrith Gwydion, lladdwyd Pryderi. Ac ym Maen Tyfiawg, uwch Melenryd, y claddwyd ef, ac yno y mae ei fedd.

Gwyr y Deheu a gerddasant yn drist eu gwedd tua'u gwlad, ac nid rhyfedd hynny,—eu harglwydd gollasant,