Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/85

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Perwch enaint i'r gwŷr," ebe ef, a golchi eu pennau a'u cyweirio."

A hynny a barwyd iddynt. Ac wedi ymgyweirio ohonynt, ato ef y cyrchasant.

"Ha wŷr," ebe ef, "tangnefedd a gawsoch, a chared— igrwydd a gewch."

"Ha wŷr," ebe Math wrth Wydion fab Don a Gilfaethwy fab Don, a roddwch im gyngor pa forwyn a geisiaf i weini i mi yn lle Goewin?"

'Arglwydd," ebe Gwydion fab Don, "hawdd yw dy gynghori, Aranrod, ferch Don, dy nith, ferch dy chwaer."

A honno a gyrchwyd ato. Ond yr oedd Aranrod yn briod yn ddirgel, ac yr oedd iddi ddau fab. Trwy hud Math, daeth ei mab a'i baban newydd eni i'r llys. Mab brasfelyn mawr oedd y mab, ond cymerth Gwydion y baban cyn i neb weled yr ail olwg arno, ac a droes len o bali yn ei gylch, ac a'i cuddiodd ef. A'r lle y cuddiodd ef oedd mewn llawr cist îs traed ei wely.

"Ie," ebe Math fab Mathonwy, wrth y mab brasfelyn, "mi a baraf fedyddio hwn, sef enw a baraf arno,— Dylan."

Bedyddio y mab a wnaethpwyd; ac fel y bedyddiwyd ef y môr a gyrchodd. A chydag y daeth i'r môr, anian y môr a gafodd, a chystal y nofiai a'r pysg goreu yn y môr. Ac oherwydd hynny y gelwid ef Dylan Eilton. Ni thorres ton dano erioed. A'r ergyd y daeth ei angau o honi a fwriodd Gofannon, ei ewythr, a honno a fu drydedd anfad ergyd."

Fel yr oedd Gwydion un diwrnod yn ei wely, ac yn deffroi, ef a glywai lef yn y gist is ei draed; ac er nad oedd yn uchel, cyfuwch oedd ag y clywai