Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/86

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Fel y gwelwyd Llew Llaw Gyffes gyntaf ef. Sef a wnaeth yntau cyfodi yn gyflym ac agor y gist, ac fel yr agorai hi, ef a welai fab bychan yn rhwyfo ei freichiau o blyg y llen ac yn ei gwasgaru. Ac ef a gymerodd y mab rhwng ei ddwylaw, ac a gyrchodd âg ef i dref, lle y gwyddai fod gwraig a bronnau ganddi, a chytunodd â'r wraig feithrin y mab. A'r mab a fagwyd y flwyddyn honno; ac ymhen y flwyddyn rhyfedd oedd ganddynt ei fod gymaint a phe bai ddwyflwydd. A'r ail flwyddyn mab mawr oedd, ac yn gallu cerdded i'r llys ei hun. Yntau ei hun, Gwydion, wedi dyfod i'r llys a sylwodd arno, a'r mab a ymgynefinodd âg ef, ac a'i carodd yn fwy nag undyn. Yna y magwyd y mab yn y llys hyd oni fu bedair blwydd. A rhyfedd oedd i fab wyth mlwydd fod gymaint ag ef. Un diwrnod efe a gerddodd yn ol Gwydion i orymdeithio allan. Sef a wnaeth Gwydion cyrchu Caer Aranrod, a'r mab gydag ef. Wedi ei ddyfod i'r llys, cyfodi a wnaeth Aranrod i'w gyfarfod, a'i groesawu a chyfarch gwell iddo.

"Duw a roddo dda it," ebe efe.

"Pa fab sydd o'th ol di?" ebe hi.

"Y mab hwn, mab i ti yw," ebe ef.

"Ha ŵr, pam y doi arnat ti fy nghywilydd i,—a dilyn fy nghywilydd, a'i gadw cyhyd a hyn?"

Oni bydd arnat ti gywilydd mwy na meithrin o honwyf fi fab cystal a hwn, bychan o beth fydd dy gywilydd."

Pwy enw fedd dy fab di?" ebe hi.

"Yn wir," ebe ef, "nid oes arno un enw eto."

"Ie," ebe hithau, "mi a dyngaf dynged iddo na chaffo ef enw oni chaffo gennyf fi."

"Myn fy nghyffes," ebe ef, "gwraig ddiriaid wyt, a'r mab a gaiff enw, er fod hynny'n ddrwg gennyt ti."