Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/87

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ac ar hynny cerdded ymaith drwy ei lid a wnaeth, a chyrchu Caer Dathyl. Ac yno y bu y nos honno. A thrannoeth cyfodi a wnaeth, a chymryd y mab gydag ef, ' a myned i orymdaith gyda glan y weilgi, rhwng hynny ac Aber Menai. A phan welodd hesg a môr-wiail, rhithio llongau a wnaeth. Ac o'r gwymon a'r hesg rhithiodd lawer o gordwal, gan ei fritho hyd na welodd neb ledr tecach nag ef. Ac ar hynny cyweirio hwyl ar y llong a wnaeth, gan ddyfod i ddrws porth Caer Aranrod, ef a'r mab yn y llong, a dechreu llunio esgidiau a'u gwnio. Ac yna canfyddwyd hwy o'r gaer, a phan wybu yntau eu darganfod o'r gaer, newid ei ffurf ef a'r mab a wnaeth, a dodi ffurf arall, fel nad adnabid hwy.

Pa ddynion sydd yn y llong?" ebe Aranrod.

Cryddion," ebe hwy.

"Ewch i edrych pa ryw ledr sydd ganddynt, a pha ryw waith a wnant."

Yna yr aethpwyd atynt, a phan ddaethpwyd, yr oedd Gwydion yn britho cordwal, a hynny'n euraidd. Yna y daeth y cenhadau a mynegi iddi hi hynny.

"Ie," ebe hi, "dygwch fesur fy nhroed, ac erchwch i'r crydd wneuthur esgid im."

Fel y cafodd Llew Llaw Gyffes enwYntau a luniodd yr esgidiau, ac nid wrth y mesur, namyn yn fwy.

Rhy fawr yw y rhai hyn," ebe hi. "Ef a gaiff werth y rhai hyn; gwnaed hefyd rai a fo llai na hwynt."

Sef a wnaeth yntau gwneuthur rhai eraill yn llai lawer na'i throed, a'u hanfon iddi.

Hynny a ddywedwyd wrthi.

"Ie," ebe hi, " mi a af hyd ato ef."

Dywedwch wrtho nid da i mi y rhai hyn," ebe hi. Ac fe a ddywedwyd hynny iddo.

"Ie," ebe yntau, "ni luniaf fi esgidiau iddi oni welwyf ei throed."