Tudalen:Mabinogion J M Edwards Cyf 1.pdf/89

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"A hynny a wnaf innau," ebe y gwas.

Ac yn ieuenctid y dydd drannoeth cyfodi a wnaethant, a chymryd yr arfordir i fyny tua Bryn Arien; ac yn y pen uchaf i Gefn Clydno ymgyweirio ar feirch a wnaethant, a dyfod parth a Chaer Aranrod. Ac yna newid eu pryd a wnaethant, a chyrchu y porth yn rhith dau was ieuanc, eithr fod yn bruddach bryd Gwydion nag un y gwas.

"Y porthor," ebe ef, "dos i fewn, a dywed fod yma feirdd o Forgannwg."

Y porthor a aeth.

"Croesaw calon iddynt. Gollwng hwy i mewn,' ebe hi.

A dirfawr lawenydd a gawsant, y neuadd a gyweiriwyd, ac i fwyta yr aethant. Wedi darfod bwyta, ymddiddan a wnaeth hi a Gwydion am chwedlau ac ystorïau. A chwedleuwr da oedd Gwydion. Pan ddaeth yn amser ymadael â'r gyfeddach, ystafell a gyweiriwyd iddynt hwy, ac i gysgu yr aethant. Ar hir blygain Gwydion a gyfododd, ac a alwodd ato ei hud a'i allu. Erbyn pan oedd y dydd yn goleuo, yr oedd cyniwair ac utgyrn a llefain yn y wlad i gyd. Pan ydoedd y dydd yn dyfod, hwy a glywent daro drws yr ystafell, ac ar hynny Aranrod yn erchi iddynt agor. Cyfodi a wnaeth y gwas ieuanc, ac agor. Hithau a ddaeth i mewn, a morwyn gyda hi.

"Ha, wyr-da," ebe hi, "mewn lle drwg yr ydym."

"Ie," ebe yntau, "ni a glywn utgyrn a llefain. Beth a debygi di o hynny?" "> "Yn wir," ebe hi, ni chawn weled lliw y weilgi gan bob llong ar dor ei gilydd. Ac y maent yn cyrchu y tir gyntaf y gallant. A pha beth a wnawn ni? ebe hi.