Arglwyddes," ebe Gwydion, "nid oes un cyngor ond cau y gaer arnom, a'i chynnal goreu gallom."
"Ie," ebe hithau, "Duw a dalo i'ch, a chynheliwch chwithau. Ac yma y cewch ddigon o arfau."
Ac ar hynny, yn ol yr arfau yr aeth hi. A dyma hi yn dyfod, a dwy forwyn gyda hi, ac arfau dau ŵr ganddynt.
"Arglwyddes," ebe ef, "gwisg am y gŵr ieuanc hwn;
a minnau, fi a'r morynion, a wisgaf am danaf finnau.
Mi a glywaf dwrf y gwŷr yn dyfod."
"Hynny a wnaf yn llawen."
A gwisgo a wnaeth hi amdano ef yn llawen ac yn gwbl.
"A ddarfu i ti wisgo am y gŵr ieuanc hwn?"
"Darfum."
"Fe ddarfum innau," ebe ef.
"Diosgwn ein harfau weithion, ni raid i ni wrthynt."
"Och," ebe hithau, "paham ? Dyma y llynges o gylch y tŷ."
"Na, wraig, nid oes yma un lynges."
"Och," ebe hithau, " pa ryw gynnull a fu arni?"
"Dygynnull," ebe yntau, "i dorri dy dynghedfen am dy fab, ac i geisio arfau iddo; ac fe gafodd ef arfau heb ddiolch i ti."
"Yn wir, yn wir," ebe hithau, "gŵr drwg wyt ti, ac feallai i lawer mab golli ei fywyd am y dygynnull a beraist ti yn y c'antref hwn heddyw. A mi a dyngaf dynged i'r mab," ebe hi, na chaffo wraig byth o'r genedl y sydd ar y ddaear hon yr awr hon."
"Ie," ebe yntau, gwraig anfwyn fuost erioed, ac ni ddylai neb fod yn borth iti; a gwraig a gaiff ef fel cynt."
Hwythau a ddaethant at Fath fab Mathonwy, a chwyno yn drist rhag Aranrod a wnaethant, a mynegi fel y parasai yr arfau iddo.